Mynyddoedd Chiricahua
Cadwyn o fynyddoedd yn ne-ddwyrain Arizona, am y ffin â New Mexico, UDA, sy'n rhan o Fforest Genedlaethol Coronado yw'r Mynyddoedd Chiricahua neu Mynyddoedd y Chiricahua. Y gopa uchaf yw Copa Chiricahua, sy'n 9759 troedfedd uwch lefel y môr [1].
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cochise County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 9,759 troedfedd |
Cyfesurynnau | 31.8464°N 109.2913°W, 31.9°N 109.4°W |
Hyd | 55 cilometr |
Cadwyn fynydd | Basin and Range Province |
- Gweler hefyd Chiricahua (gwahaniaethu).
Roedd y mynyddoedd hyn yn gartref i'r Apache Chiricahua, yn cynnwys Cochise a Geronimo. Dyma gadarnle mwyaf y bobl honno, a fu - gyda'r Sierra Madre dros y ffin i'r de ym Mecsico - yn ganolbwynt eu gwrthsafiad hir yn erbyn llwyodraeth yr Unol Daleithiau yn y Rhyfeloedd Apache.
Mae erydiad wedi creu cyfresi cymhleth o gribau mynyddig, yn dyrrau a cholofnau carreg trawiadol sy'n codi o'r fforest islaw. Diogelir y tirwedd arbennig yma mewn parc cenedlaethol.
Mae Bwlch Apache yn gorwedd rhwng Mynyddoedd Chiricahua a Mynyddoedd Dos Cabezas.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol