Mynyddoedd Zhiguli

Cadwyn o fynyddoedd coediog yn ne Rwsia yw Mynyddoedd Zhiguli (Rwseg: Жигулëвские горы, Zhigulyovskiye gory) neu Zhiguli (Rwseg: Жигули́), a leolir ar lan dde Afon Volga ger Tro Samara yn Oblast Samara. Mae'r mynyddoedd hyn yn ffynhonnell olew bwysig, sydd wedi cael ei defnyddio ers y Rhyfel Gwladgarol Mawr. Uchder: hyd at 1,240 tr (380 m). Pwynt uchaf: Mynydd Bezymyannaya.

Mynyddoedd Zhiguli
Mathcadwyn o fynyddoedd, ucheldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd1,585 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr381 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4167°N 49.5°E Edit this on Wikidata
Hyd60 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddVolga Upland Edit this on Wikidata
Map

Lleolir tref Zhigulyovsk yn yr ardal, sydd hefyd yn gartref i warchodfa natur a gwaith hydro-electrig.