Mynyddoedd y Cawcasws
Cadwyn o fynyddoedd yn Ewrasia, rhwng y Môr Du a Môr Caspia yw Mynyddoedd y Cawcasws. Ystyrir gan lawer eu bod yn ffurfio'r ffîn rhwng Ewrop ac Asia, er bod hyn yn ddadleuol.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 477,165 km² |
Uwch y môr | 5,642 metr, 2,009 metr |
Cyfesurynnau | 42.5°N 45°E |
Hyd | 1,200 cilometr |
Rhennir y mynyddoedd hyn yn ddwy ran:
- Y Cawcasws Mwyaf, lle ceir y mynyddoedd uchaf. Y copa uchaf yw Elbrus, 5,642 m.
- Y Cawcasws Lleiaf, sy'n gorwedd rhyw 100 km i'r de o'r Cawcasws Mwyaf. Y copa uchaf yma yw Aragats, 4,095 m..