Nadia Boulanger

cyfansoddwr a aned yn 1887

Cyfansoddwraig, arweinydd, ac athrawes o Ffrainc oedd Nadia Boulanger (16 Medi 188722 Hydref 1979). Astudiodd yn y Conservatoire de Paris ond, gan gredu nad oedd ganddi unrhyw dalent arbennig fel cyfansoddwr, daeth athrawes. Fel athrawes, dylanwadodd ar lawer o gyfansoddwyr pwysicaf y 20g, yn enwedig o'r Unol Daleithiau. Ymhlith ei myfyrwyr roedd llawer a ddaeth yn enwog fel gyfansoddwyr, unawdwyr, trefnwyr ac arweinyddion, gan gynnwys: Daniel Barenboim, Lennox Berkeley, Elliott Carter, Aaron Copland, John Eliot Gardiner, Philip Glass, Roy Harris, Quincy Jones, Dinu Lipatti, Igor Markevitch, Astor Piazzolla a Virgil Thomson.

Nadia Boulanger
GanwydJuliette Nadia Boulanger Edit this on Wikidata
16 Medi 1887 Edit this on Wikidata
9fed bwrdeistref o Baris, Paris Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1979 Edit this on Wikidata
9fed bwrdeistref o Baris Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records, EMI Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd, organydd, arweinydd, cyfansoddwr, cerddolegydd, addysgwr, athro cerdd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
TadErnest Boulanger Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix de Rome, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Howland Memorial Prize, Urdd San Siarl, Order of the Crown, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata

Roedd y cyfansoddwr Lili Boulanger yn chwaer iddi.

Cyfeiriadau golygu