Portiwgal
Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon.
![]() | |
República Portuguesa | |
![]() | |
Arwyddair |
Europe's West Coast ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol ![]() |
| |
Prifddinas |
Lisbon ![]() |
Poblogaeth |
10,600,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
A Portuguesa ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
António Costa ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−01:00 ![]() |
Nawddsant |
Siôr ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Portiwgaleg, Mirandese ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Southwestern Europe ![]() |
Arwynebedd |
92,212 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Sbaen, Castilla y León ![]() |
Cyfesurynnau |
38.7°N 9.1833°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Cyngor y Gweinidogion ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Cynulliad y Weriniaeth ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Portiwgal ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Marcelo Rebelo de Sousa ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog Portiwgal ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
António Costa ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
217,571 million US$ ![]() |
CMC y pen |
21,291 US$ ![]() |
Arian |
Ewro ![]() |
Canran y diwaith |
14 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.21 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.83 ![]() |
DaearyddiaethGolygu
HanesGolygu
Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwyd y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.
Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8g daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristioniogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddigoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.
Yn niwedd y 14g, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddath yn Ioan I, brenin Portiwgal. Drod y blynyddoedd nesaf, bu gan Portiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Maleisia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.
Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.
O ddechrau'r 19g, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Cabo Verde, São Tomé a Príncipe, Gini-Bissau, Angola a Mosambic.
Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mosambic. Wedi gwrthryfel a adnabyddir fel y Chwyldro Carnasiwn yn 1974, rhoddwyd diwedd ar undennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tsieina.
GwleidyddiaethGolygu
Pobl o BortiwgalGolygu
Rhestr Wicidata:
Dolenni allanolGolygu
- (Portiwgaleg) Portal swyddogol y Llywodraeth Portiwgal
- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol y Senedd Portiwgal