Nant Clydach
afon yn Rhondda Cynon Taf
Afon ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru yw Nant Clydach (weithiau Nant Glydach). Mae'n ffurfio Cwm Clydach ac yn llifo i mewn i Afon Taf.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.626764°N 3.327459°W |
Aber | Afon Rhondda |
Ceir tarddle'r afon ar yr ucheldiroedd yng Nghoed Sant Gwynno, lle mae nifer o nentydd yn llifo i mewn i Gronfa Clydach. Mae'n llifo tua'r dwyrain, gan ffurfio rhaeadr Pistyll-goleu, yna'n troi tua'r de ac yn llifo heibio Buarth Capel ac Ynysybwl. Wedi mwynd heibio Ynysybwl, mae'n troi tua'r dwyrain eto, i lifo rhwng Coed y Cwm a Glyncoch, ac yn ymuno ag Afon Taf yn fuan wedyn.