Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec
llyfrgell ym Mhrag
(Ailgyfeiriad o National Library of the Czech Republic)
Lleolir Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg: Národní knihovna České republiky) ym Mhrag. Delir dros 6.5 miliwn o gyfrolau yno.[1] Ei phrif safle yw adeilad Baróc y Klementinum, a'i adeiladwyd fel coleg ar gyfer yr Iesuwyr.[2] Mae'r casgliad yn seiliedig ar lyfrgell hanesyddol yr Univerzita Karlova (Prifysgol Siarl);[2] rhoddwyd y llawysgrifau cyntaf gan yr ymerawdwr Siarl IV ym 1366.[1] Ers 1935 mae'r llyfrgell wedi dal copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn Tsiecoslofacia a'i olynydd y Weriniaeth Tsiec.[2]
Math | llyfrgell genedlaethol, llyfrgell brifysgol, sefydliad ymchwil |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Clementinum |
Sir | Prag |
Gwlad | Gweriniaeth Tsiec |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Some facts and figures. Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) From Klementinum's History. Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Tsieceg) Gwefan swyddogol