National Redeemer
Astudiaeth o'r cof am Owain Glyn Dŵr yn nhraddodiad Cymru gan Elissa R. Henken yw National Redeemer: Owain Glyn Dŵr in Welsh Tradition a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1996. Yn 2014 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Elissa Henken |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1996 |
Pwnc | Owain Glyn Dŵr |
Argaeledd | mewn print. |
ISBN | 9780708312902 |
Genre | Hanes |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Disgrifiad
golyguCyfrol sy'n trafod Owain Glyn Dŵr fel y Mab Darogan a fyddai'n ysgubo'r Saeson o'r wlad ac adennill sofraniaeth y Brythoniaid ar Ynys Brydain, gan gofnodi sawl traddodiad a chwedl werin.
Derbyniad
golyguMeddai T. G. Hunter mewn adolygiad yn y cyfnodolyn academaidd Western Folklore: "Dyma astudiaeth ryngddisgyblaethol ragorol a ddylai ysbrydoli unrhyw un sydd â diddordeb mewn cydadwaith hanes, llên gwerin, a chysyniadaeth hunaniaeth genedlaethol." Mae Hunter yn canmol Henken am gloriannu'r dau draddodiad yn chwedl Glyn Dŵr: y gwaredwr cenedlaethol a sonir amdano mewn llyfrau, caneuon, ac areithiau, a'r arwr lleol sydd yn destun y traddodiad llafar yn ei hen froydd.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013
- ↑ T. G. Hunter, "National Redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh Tradition review", Western Folklore 56, 2 (1997), tt. 178–80. doi:10.2307/1500207.