Neil Postman
Academydd, addysgwr a beirniad diwylliannol o Americanwr oedd Neil Postman (8 Mawrth 1931 – 5 Hydref 2003).[1] Roedd yn athro ym Mhrifysgol Efrog Newydd a arbenigodd yn y cyfryngau a chyfathrebu.
Neil Postman | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1931 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 5 Hydref 2003 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cymdeithasegydd, awdur ysgrifau, addysgwr, critig cyfryngol, ysgrifennwr, academydd, communication scholar, newyddiadurwr |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Gwobr Orwell |
Ei waith enwocaf yw Amusing Ourselves to Death (1985), llyfr sy'n beirniadu effaith teledu ar gymdeithas. Cred Postman yr oedd teledu yn amharu ar gyfathrebu dynol trwy gyflwyno materion cyfoes a phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol ar ffurf adloniant ac nid disgwrs o ddifrif.[2]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) McCain, Robert Stacy (4 Tachwedd 2003). Obituary: Neil Postman. The Guardian. Adalwyd ar 26 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Saxon, Wolfgang (9 Hydref 2003). Neil Postman, 72, Mass Media Critic, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 26 Ionawr 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.