Prifysgol Efrog Newydd
Prifysgol breifat yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Efrog Newydd (Saesneg: New York University) sydd yn cynnwys 13 o golegau ac isadrannau a leolir mewn pum canolfan ar draws bwrdeistref Manhattan. Mae ganddi ryw 50,000 o fyfyrwyr.
Arwyddair | Perstare et praestare ![]() |
---|---|
Math | prifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manhattan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 40.73°N 73.995°W ![]() |
Cod post | 10012-1091 ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Albert Gallatin ![]() |
Sefydlwyd ym 1831 dan yr enw Prifysgol Dinas Efrog Newydd (University of the City of New York). Sefydlwyd ysgol y gyfraith ym 1835, yr ysgol feddygol ym 1841, a'r ysgol ôl-raddedig ar gyfer addysgeg ym 1890. Newidiodd ei enw i Brifysgol Efrog Newydd ym 1894.[1]
Mae campws Prifysgol Efrog Newydd yn cynnwys rhyw 170 o adeiladau ar draws Manhattan, a'i graidd o amgylch Parc Sgwâr Washington yn ardal Greenwich Village. Adrannau'r brifysgol yw: Coleg y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Astudiaethau Breiniol; Ysgol Ôl-raddedig y Celfyddydau a Gwyddoniaeth; Ysgol Gallatin ar gyfer Astudiaethau Unigoledig; Ysgol Ddiwylliant, Addysg a Datblygiad Dynol Steinhardt; Ysgol Fusnes Stern; Ysgol Beirianneg Tandon; Ysgol Gelfyddydau Tisch; yr Ysgol Iechyd Cyhoeddus Byd-eang; y Coleg Deintyddiaeth; Athrofa Wyddorau Mathemategol Courant; Ysgol Feddygol Grossman; Athrofa'r Celfyddydau Cain; yr Athrofa dros Astudio'r Henfyd; Ysgol Wasanaeth Cyhoeddus Wagner; Ysgol Nyrsio Rory Meyers; yr Ysgol Astudiaethau Proffesiynol; Ysgol y Gyfraith; ac Ysgol Waith Cymdeithasol Silver.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) New York University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2021.