Mae Neil Gilbert Siegel (ganwyd 19 Chwefror 1954) yn wyddonydd cyfrifiadurol Americanaidd, peiriannydd systemau, a pheiriannydd, sy'n adnabyddus am ei ddatblygiad o lawer o systemau allweddol ar gyfer byddin Unol Daleithiau America, gan gynnwys system Olrhain Blue-Force, system cerbyd-aer heb berson cyntaf byddin yr UDA, a system Amddiffyn Awyr Ardal Flaen Byddin yr UD.[1] Mae sawl un o'i ddyfeisiadau yn cael eu defnyddio mewn gwrthrychau cyffredin hefyd, megis dyfeisiau llaw (e.e., dyfeisiau GPS symudol, ffonau smart, ac yn y blaen) sydd â mapiau digidol yn cyfeirio yn awtomatig i alinio â phwyntiau cardinal y byd go iawn.

Neil Siegel
Ganwyd19 Chwefror 1954 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Barry Boehm Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwyddonydd cyfrifiadurol, systems engineer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Northrop Grumman Edit this on Wikidata
MamJudith Love Cohen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodor IEEE, IEEE Simon Ramo Medal Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a'i waith golygu

Ganwyd Siegl yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i Bernard Siegl a Judith Love Cohen, ac mae wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn ne-orllewin Los Angeles. Iddewon oedd ei rieni.[2] Mae ganddo ddau frawd a chwaer lawn, Howard a Rachel, yn ogystal â hanner-brawd, yr actor Jack Black. Fe fynychodd Brifysgol De Califfornia, gan ennill sawl gradd mewn mathemateg. Yn ystod ac yn hwyrach ar ôl y cyfnod hwn, gweithiodd fel cerddor proffesiynol, yn bennaf yn perfformio cerddoriaeth glasurol a gwerin o’r Balcanau a’r Dwyrain-Cannol. Enillodd ddoethuriaeth mewn peirianneg systemau (hefyd o USC); ei ymgynghorydd oedd y cyfrifiadurwr nodedig Barry Boehm.

Yn 1976, dechreuodd weithio i gwmni oedd yn cael ei adnabod fel TRW (a brynwyd gan Northrop Grumman yn 2002).

Gyrfa golygu

Yn 1993, arweinodd fudiad yn TRW gan ddatblygu systemau awtomaidd unigryw ar gyfer byddin yr UDA ac (i raddau llai) cwmnïau masnachol. Llwyddodd yn eithriadol o dda mewn masnach<angen ffynhonnell>, gan dyfu'n gyflym. Creodd y cwmni lawer o gynnyrch newydd awtomeiddio cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth neu bryderus. Yn ogystal â'r fyddin ac Awyrlu'r Unol Daleithiau, roedd cwsmeriaid ar y pryd hefyd yn cynnwys meysydd dur yr UDA a'r maes ffilm.

Ym 1993, sefydlodd ei dîm system gorchymyn a rheoli cwbl awtomataidd gyntaf Byddin yr UD, y System C2 Amddiffyn Awyr Ardal Ymlaen. Mae'r system hon yn dal i gael ei defnyddio hyd at heddiw.

Yn 1995, fe enillodd ei dîm y contract i ddatblygu system "maes brwydr ddigidol" cyntaf byddin yr UD, o'r enw'r Force-XXI Battle Command Brigade and Below (yn cael ei adnabod yn gyffredinol o dan yr acronym FBCB2). Mae hyn wedi galluogi medr adnabyddus i'r UD, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y Corfflu Môr-filwyr, yn ogystal â'r fyddin.

Hefyd yn 1995, dosbarthodd ei dim safle rheoli awtomaidd cyntaf y fyddin, sy'n wedi ei ddilyn gan gyfres hir o galluon perthnasol hyd at heddiw

Yn 1997, rhoddir y cyfrifoldeb o "drwsio" y rhaglen Hunter UAV, cerbyd aer di-griw cyntaf y fyddin. Dioddefodd y rhaglen cyfres o ddamweiniau yn ystod profi a chafodd ei "ohurio". Yn ystod ei daliadaeth, doddth y rhaglen yn un o gerbydau aer di-griw mwyaf dibynadwy'r UD. Gorffennodd y Hunter ei swydd yn 1999 yn y Balcanau.

Mae ei gyfraniadau personol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn canolbwyntio ar dechnegau ar gyfer llwybro lled band hynod o isel o fewn y rhwydwaith [3] a chyflawni deinameg derbyniol trwy'r hyn y mae'n ei alw'n rhwydweithiau "force-structure-aware". [4] Mae o wedi bod yn arloeswr mewn defnyddio cymwysiadau GPS ar raddfa fawr [5] [6] (fel system Olrhain Blue-Force ). Mae o hefyd wedi cyfrannu at y maes o strwythuro datblygiadau meddalwedd ar raddfa fawr er mwyn cyfateb i'r dosbarthiad sgiliau a geir mewn timau byd go iawn.

Ers canol 2001, mae o wedi dod yn brif swyddog o dechnoleg systemau TRW (eisoes Northrop Grumman Mission Systems). Mae ei waith yn ystod yr amser yma yn waith estynedig ar ei waith blaenorol mewn rhwydweithi byddinol, rhwydwiethi "force-structure-aware" a systemau methodoleg peirianneg ar raddfa eang. Ymddeolodd ar ddiwedd 2015.

Ers 2016, ddoth Siegel yn athro o oruchwyliaeth IBM yn y USC . [7] Mae hefyd yn Athro Cynorthwyol mewn Peirianneg yn UCLA . [8] yn ogystal â hyn, mae Siegel hefyd yn dysgu dosbarthiadau peirianneg israddedig.

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Mae Siegel wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau, yn gynnwys:

  • Etholiad i Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau yn 2005. [9]
  • Dewis yn Gymrawd IEEE (2011). [10]
  • Medal Simon Ramo IEEE (2011), ar gyfer peirianneg systemau a gwyddor systemau. [11]
  • Aelod (2017) a Chymrawd (2019), Academi Genedlaethol y Dyfeiswyr . [12]
  • Urdd Anrhydeddus Sant Barbara Byddin yr UD, 1996. [12]
  • Gwobr iCMG ar gyfer pensaernïaeth system [13]
  • Cyngor Technoleg Gogledd Virginia - gwobr CTO y flwyddyn [14]

Electronegyddion traul golygu

Mae Siegel wedi cael effaith mawr ar y ddyluniaeth a gallied o lawer o fathau gwahanol o electronegyddion traul (consumer goods) symudol, yn cynnwys ffonau symudol, GPS, ac yn y blaen. Mae o wedi ei gofrestru fel y creuwr cyntaf o lawer o dechnolegau pwysig sydd yn cael eu defnyddio hyd at heddiw gan gynnwys:

  • Dyfeisiau symudol wedi'u galluogi gan GPS [15]
  • Cyfeiriadedd awtomatig arddangosiad map i gyd-fynd â'r pwyntiau cardinal daearyddol [16]
  • Optimeiddio protocolau unicast (gan gynnwys TCP) i'w defnyddio ar rwydweithiau diwifr lled band isel [17]
  • Cyflawni llawer o dasgau gweinyddol a rheoli diogelwch o bell [18]
  • Rheoli a gweinyddu rhwydwaith mawr o ddyfeisiau diwifr [19]
  • Cynyddu bywyd batri ar ddyfeisiau sy'n galluogi GPS [20]

Bywyd personol golygu

Mae Siegel yn gerddor talentog sydd yn chware'r ffliwt, târ, [21] ney, [22] a'r kaval [23] mae o eisoes wedi perfformio mewn dros 1,500 o gyngherddau yn fyd-eang. Astudiodd gerddoriaeth gyda meistr Sufi o Iran, Morteza Varzi, am dros 20 mlynedd. Mae o'n aelod o Cerddorion Proffesiynol Local 47, Ffederasiwn Cerddorion America, AFL-CIO. [24]

Mae o'n ŵr i Robyn Friend sydd yn ysgrifenyddes, dawnsiwr a chantores. Maent wedi perfformio gyda'i gilydd ledled y byd yn ystod y 30 mlynedd diweddarach.

Mae o'n cymryd rôl arweiniol mewn sawl mudiad nid-er-elw, yn cynnwys y Providence Trinity Health Care Hospice Foundation, yr Electric Infrastructure Security Council, ac yr Institute of Persian Performing Arts. Ers 2013, mae o a'i wraig wedi cynnal mudiad elusengar eu hun, y Seigel and Friend Foundation.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://neilsiegel.usc.edu/intellectual-property/systems-and-inventions/
  2. Siegel, Neil (26 Gorffennaf 2016). "In Memory of Judith Love Cohen: Mother, Wife, Friend, Author, Engineer". USC Viterbi School of Engineering. Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
  3. "US Patent for Ultra-low bandwidth intra-network routing method Patent (Patent # 6,701,375 issued March 2, 2004) - Justia Patents Search". patents.justia.com.
  4. "US Patent for Automated configuration of internet-like computer networks Patent (Patent # 6,212,559 issued April 3, 2001) - Justia Patents Search". patents.justia.com.
  5. US patent 7,256,731[dolen marw]
  6. US patent 5,672,840[dolen marw]
  7. http://neilsiegel.usc.edu
  8. "Faculty and post-doctoral positions | MAE".
  9. "NAE Members Directory – Dr. Neil G. Siegel". US National Academy of Engineering. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in: |access-date= (help)
  10. "Fellow Class of 2011". IEEE. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 30, 2013. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in: |access-date= (help)
  11. "IEEE Simon Ramo Medal Recipients" (PDF). IEEE. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in: |access-date= (help)
  12. 12.0 12.1 https://neilsiegel.usc.edu/awards/
  13. "iCMG winners by category, 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2022-01-27.
  14. "404 Page". www.globenewswire.com.
  15. FBCB2
  16. U.S. Patent number 5,672,840[dolen marw]
  17. U.S. Patent number 6,701,375[dolen marw]
  18. U.S. Patent number 7,278,023[dolen marw]
  19. U.S. Patent number 6,212,559[dolen marw]
  20. U.S. Patent number 7,256,731[dolen marw]
  21. "www.RobynFriend.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-04. Cyrchwyd 2022-01-27.
  22. "www.neyzen.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2022-01-27.
  23. www.neilsiegel.usc.edu
  24. https://neilsiegel.usc.edu/music/

Dolenni allanol golygu