New Horizons
Chwiliedydd gofod yw New Horizons. Lawnsiwyd gan NASA o'r Cape Canaveral Air Force Station, Fflorida ar 19 Ionawr 2006 ar berwyl i hedfan heibio Plwton a'i loerennau Charon, Nix, Hydra, Kerberos a Styx. Ar 4 Ionawr 2012 roedd y chwiliedydd gofod yn teithio ar gyflymder o 15.41 km/eiliad, y tu hwnt i orbit Wranws.
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod |
---|---|
Màs | 478 cilogram, 401 cilogram, 29.62 cilogram, 76.8 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Rhaglen New Frontiers |
Olynwyd gan | Juno |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Johns Hopkins University Applied Physics Laboratory |
Pellter o'r Ddaear | 58.96 uned seryddol |
Gwefan | https://newhorizons.jhuapl.edu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyrhaeddodd Plwton ar 14 Gorffennaf 2015 gan hedfan 12,500 km (7,800 milltir) uchlaw arwyneb Plwton gan gymryd y lluniau manwl cyntaf o'r blaned gorrach.
Yn dilyn llwyddiant y daith, ail-gyfeiriwyd y llong ofod i deithio biliwn o filltiroedd ymhellach i archwilio un o wrthrychau cyntefig y Gwregys Kuiper. Dewiswyd y gwrthrych (486958) 2014 MU69 (Ultima Thule) a hedfanodd heibio'r corff bychan ar 1 Ionawr 2019.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) New Horizons: NASA's Pluto-Kuiper Belt Mission Gwefan Swyddogol New Horizons