Ardal faestrefol yn Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy New Maldon – y rhan helaeth ohoni o fewn ym Mwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames ond gyda rhan fechan ohoni ym Mwrdeistref Merton. Saif tua 9.4 milltir (15.1 km) i'r de-orllewin o ganol Llundain.[1] Trefi cyfagos yw Surbiton a Worcester Park.

New Malden
Mathtref, ardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames, Bwrdeistref Llundain Merton
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr21 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4°N 0.252°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ215685 Edit this on Wikidata
Cod postKT3 Edit this on Wikidata
Map

Cymuned a diwylliant Coreaidd golygu

New Malden yw ardal mwyaf poblog Ewrop o ran alltudion o Dde Corea, ac un o ardaloedd mwyaf dwys o bobl Coreaidd yn y byd y tu allan i Dde Corea ei hun gyda thua 20,000 o bobl yn byw o fewn radiws 3 milltir o'r dref.[2] Mae gan yr ardal lu o siopau a tai bwyta Coreaidd. Ar Burlington Road lleolir Sefydliad Diwylliannol Anglo-Goreaidd, ac fe geir nifer o eglwysi yn yr ardal sy'n cynnal gwasanaethau Corëeg.

Caiff hyn ei olrhain i'r 1970au pan ddilynodd nifer o bobl o Dde Corea ôl traed Llysgennad De Corea, a oedd yn byw yn nhref cyfagos Wimbledon ers y 1960au.[2] Pan gynyddodd prisiau tai Wimbledon, symudodd nifer i New Malden. Gelwir yr ardal yn aml yn New Mal-dong, gan mai "cymdogaeth" yw ystyr y gair dong.

Cyfeiriadau golygu

  1. Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
  2. 2.0 2.1 https://docs.google.com/viewer?url=http://www.kingston.gov.uk/livin_kingston_spring_2005_final-2.pdf
  Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.