New Rope String Band
Pete Challoner, Tim Dalling a Jock Tyldesley yw aelodau New Rope String Band, band sy'n gweithio yn y byd gwerin. Mae eu sioe yn cynnwys elfennau mawr o gomedi a sgiliau syrcas yn ogystal â cherddoriaeth werin.[1]
Hanes
golyguFfurfiwyd yr Old Rope String Band yn Newcastle ym 1988 gan dri aelod band ceilidh: Joe Scurfield, Ian Carr a Pete Challoner. Gadawodd Ian Carr ar ôl dwy flynedd, ac ymunodd Tim Dalling a'r band.
Lladdwyd Joe Scurfield ar balmant yn Newcastle gan yrrwr taro a ffoi ar 8 Mehefin 2005.[2] Penderfynodd y band barhau, ond newidiwyd ei enw i "New Rope String Band". Ymunodd Jock Tyldesley o fandiau Chipolatas a Flatville Aces a Vera van Heeringen o'r Iseldiroedd.[3] Erbyn hyn, mae Jock a Vera'n byw yn Llansilin, ac mae Vera wedi gadael y band.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Celtic Connections". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2013-05-06.
- ↑ ysgrif goffa Y Guardian
- ↑ "Gwefan villagesinaction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-24. Cyrchwyd 2013-05-06.
Dolenni Allanol
golygu- gwefan y New Rope String Band Archifwyd 2013-05-20 yn y Peiriant Wayback
- gwefan yr Old Rope String Band Archifwyd 2013-05-18 yn y Peiriant Wayback