Scone

tref yn Perth a Kinross
(Ailgyfeiriad o New Scone)

Tref yn awdurdod unedol Perth a Kinross, yr Alban, yw Scone[1] (Gaeleg yr Alban: Sgàin)[2] neu New Scone.

Scone
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,430, 5,050 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPerth a Kinross Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.4179°N 3.404°W Edit this on Wikidata
Cod OSNO134259 Edit this on Wikidata
Cod postPH, PH2 Edit this on Wikidata
Map

Saif Palas Scone y tu allan i'r dref, a safai Abaty Scone (a ddinistiwyd erbyn hyn) gerllaw. Yn yr Oesoedd Canol tyfodd tref o amgylch yr abaty a'r breswylfa frenhinol, ond gadawyd yr anheddiad hwnnw yn gynnar yn y 19g pan symudwyd y trigolion ac adeiladwyd palas newydd ar ei safle. Sefydlwyd y dref fodern ar safle newydd ym 1805. Fe'i gelwid yn wreiddiol yn "New Scone", ond ers 1997 fe'i gelwir yn swyddogol yn "Scone".

Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,430 gyda 84.33% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 11.53% wedi’u geni yn Lloegr.[3]

Gwaith

golygu

Yn 2001 roedd 2,026 mewn gwaith. Ymhlith y prif waith yn y gymuned roedd:

  • Amaeth: 1.58%
  • Cynhyrchu: 7.06%
  • Adeiladu: 8.64%
  • Mânwerthu: 18.11%
  • Twristiaeth: 5.92%
  • Eiddo: 10.27%

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 4 Mai 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-28 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 4 Mai 2022
  3. Gwefan Cofnodion Cenedlaethol yr Alban Archifwyd 2009-01-05 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 15/12/2012.