Newport (Ymerodraeth State of Mind)

Mae "Newport (Ymerodraeth State of Mind)" yn fersiwn parodi o'r gân "Empire State of Mind" gan Jay-Z ac Alicia Keys (2009). Cafodd ei recordio yn 2010 gan y gantores Teresa Wainwright a'r rapiwr Alex Warren, â fideo wedi'i cyfarwyddo gan MJ Delaney. Mae'r gân yn cynnwys cyfeiriadau helaeth at ddinas Casnewydd yng Nghymru. "Empire State" yw llysenw talaith Efrog Newydd, felly "Ymerodraeth" yn y teitl.

Cynhyrchu a rhyddhau

golygu

Cyfarwyddwyd y fideo gan y gwneuthurwr ffilmiau MJ Delaney, ac roedd yn cynnwys y gantores Terema Wainwright a'r rapiwr Alex Warren.[1] Ysgrifennwyd y geiriau gan Tom Williams, Leo Sloley ac MJ Delaney, ac maent yn cynnwys cyfeiriadau niferus at ddinas Casnewydd a diwylliant poblogaidd Cymru.[2] Perfformiodd Warren a Wainwright y gân yn fyw yng Ngŵyl Dinas Casnewydd 2010.[3]

Ymatebion

golygu

Rhyddhaodd y grŵp rap o Gasnewydd Goldie Lookin Chain fideo "parodi o barodi" mewn ymateb o'r enw "You're Not From Newport", gan honni bod diffyg gwybodaeth leol gan eu cystadleuwyr.[4][5]

Y gân oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer parodi'r actor Russell Gomer "Ain't Seen Ruthin Yet", yn seiliedig ar y gân "You Ain't Seen Nothing Yet" gan Bachman-Turner Overdrive a thref Rhuthun yn Sir Ddinbych.[6]

Yn 2011, cafodd fersiwn parodi newydd, hefyd wedi'i chyfarwyddo gan Delaney, ei ffilmio a'i darlledu ar Comic Relief. Roedd yn cynnwys nifer o enwogion Cymreig yn gwefus-synsio i'r fersiwn wreiddiol. Roedd yn serennu Josie d’Arby, Steve Jones, Paul Whitehouse, Siân Lloyd, Connie Fisher, John Humphrys, Gethin Jones, Helen Lederer, Robbie Savage, Anneka Rice, Ruth Madoc, Tim Vincent, Howard Marks, Gareth Jones, Lisa Rogers, Helen Adams, Max Boyce, Joe Calzaghe, Dirty Sanchez, Wynne Evans, Goldie Lookin Chain, Colin Jackson, Grant Nicholas, Shakin’ Stevens, Michael Sheen, Imogen Thomas, Bonnie Tyler, Alex Jones ac Ian Woosnam.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. McCarthy, James (25 Gorffennaf 2010). "Jay-Z video rap spoof set for its millionth hit". Wales Online (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2024. Cyrchwyd 4 Medi 2010.
  2. "Spoof 'Newport State of Mind' video becomes web hit". BBC News (yn Saesneg). 24 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2024. Cyrchwyd 3 Mai 2024.
  3. "YouTube stars return for Newport Cityfest". South Wales Argus (yn Saesneg). 9 Awst 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2024. Cyrchwyd 10 Awst 2010.
  4. "Goldie Lookin Chain respond to spoof Newport video" (yn Saesneg). BBC. 9 Awst 2010. Cyrchwyd 10 Awst 2010.
  5. "NEWPORT STATE OF MIND (YOU'RE NOT FROM NEWPORT)" – drwy www.youtube.com.
  6. "Spoof actor ain't seen Ruthin yet" (yn Saesneg). BBC News. 10 Awst 2010.
  7. "Comic Relief cast". BBC.

Dolenni allanol

golygu