Parodi
Parodi (benthyciad diweddar o'r gair Saesneg parody, o'r gair Eidaleg parodia; o'r gair Groeg paroidia, para- + aiden 'canu'), mewn llenyddiaeth, yw dynwared gwaith llenyddol awdur arall, neu ddynwared math arbennig o lenyddiaeth, gan ddefnyddio'r un dullweddau. Bwriad parodi yw creu doniolwch ar draul yr hyn sy'n cael ei barodïo. Gallai'r doniolwch fod yn hwyl diniwed neu'n ffordd o ddychanu rhywun neu rywbeth. Yn aml mae parodi yn ddynwarediad bwriadol sâl a chwerthinllyd, ond mae'n medru bod yn waith mwy cynnil a soffistigedig hefyd.
Yn Gymraeg ceir yr enghreifftiau cynharaf o barodïau fel gweithiau gorffenedig yn y testunau a adnabyddir fel yr Areithiau Pros, a gyfansoddwyd tua diwedd yr Oesoedd Canol neu ddechrau'r Cyfnod Modern.
Weithiau mae awdur yn dewis parodïo ei waith ei hun, fel y gwnaeth y bardd R. Williams Parry yn ei gerdd Yr Hwyaden, sy'n barodi o'i gerdd enwog Yr Haf.
Ceir parodïau cerddorol yn ogystal.