Nikon, Patriarch Moscfa
Clerigwr Rwsiaidd oedd Nikon (1605 – 1681) a fu'n Batriarch Moscfa, ac felly'n bennaeth ar Eglwys Uniongred Rwsia, o 1652 i 1666. Aeth ati i ddiwygio disgyblaeth eglwysig ac i wared y ddefod Rwsiaidd rhag ychwanegiadau diweddar a oedd yn gwyro oddi ar y traddodiad Bysantaidd. Cyflwynodd lyfr gweddi newydd yn 1654 gan sbarduno sgism yn yr eglwys. Trodd nifer o Rwsiaid yn erbyn y drefn newydd, a chafodd yr Hen Gredinwyr hyn eu hanathemeiddio gan y Synod Fawr (1666–67). O ganlyniad i'r gwrthwynebiad yn ei erbyn, diswyddwyd Nikon yn 1666. Er hynny, cedwid ei ddiwygiadau ar waith.
Nikon, Patriarch Moscfa | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Mai 1605 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Q18769961 ![]() |
Bu farw | 17 Awst 1681 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Yaroslavl ![]() |
Dinasyddiaeth | Tsaraeth Rwsia ![]() |
Galwedigaeth | Eastern Orthodox priest, Eastern Orthodox bishop ![]() |
Swydd | bishop of Novgorod, Patriarch of Moscow and all Russia ![]() |
llofnod | |
![]() |
