Rwsiaid
Grŵp ethnig Slafaidd yw'r Rwsiaid (Rwseg: русские - russkie); defnyddir y term hefyd am ddinasyddion Rwsia, er nad yw'r cyfan o'r rhain yn Rwsiaid ethnig.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig, pobl |
---|---|
Math | Eastern Europeans |
Mamiaith | Rwseg |
Poblogaeth | 133,000,000 |
Crefydd | Eglwysi uniongred |
Rhan o | Slafiaid y Dwyrain |
Yn cynnwys | Russian sub-ethnic and ethnographic groups, Semeiskie |
Gwladwriaeth | Rwsia, Wcráin, Casachstan, Unol Daleithiau America, Belarws, Wsbecistan, Latfia, Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Credir bod tua 145 miliwn o Rwsiaid trwy'r byd, gyda tua 116 miliwn yn Rwsia a thua 25 miliwn yn y gwledydd cyfagos. Ceir tua 2 filiwn mewn rhannau eraill o'r byd, gan gynnwys Ewrop, America, Tsieina a Gogledd Corea.
O ran crefydd mae'r mwyafrif yn perthyn i'r Eglwys Uniongred Rwsiaidd, ond cyfran cymharol fychan o'r boblogaeth sy'n mynd i wasanaethau crefyddol heddiw.