Nisse (llên gwerin)
Creadur chwedlonol megis coblyn sy'n gysylltiedig â gwyliau’r Nadolig yw'r Nisse. Mae'r Nisse hefyd yn bodoli mewn rhannau eraill o'r rhanbarthau Nordig; ac yn ei fersiynau cynnar, nid oedd y Nisse ond yn gysylltiedig â'r gwyliau. Ond, wrth i’r traddodiad ddatblygu, gwyliau'r gaeaf oedd y prif dymor a gysylltir â'r Nisse.
Yn y gymdeithas Norwyaidd fodern, cysylltir y Nisse yn bennaf â Siôn Corn, ond weithiau daw hanesion newydd am y chwedl hon i'r amlwg. Enghraifft wych o fersiwn gyfoes o'r Nisse yw'r gyfres i blant Jul i Blåfjell (Nadolig yn y Mynydd Glas), sy'n canolbwyntio ar grŵp o Nisse yn gwisgo hetiau glas a dillad, y cyfeirir atynt fel y Nisse Glas. Wrth i chwedlau'r Nisse ddatblygu, roeddent yn adlewyrchiad o’r newidiadau cymdeithasol o fewn diwylliant Norwy.
Ystyrir y gred yn y Nisse yn un hynafol o'r Oesoedd Canol. Yn dilyn y Diwygiad, condemniodd offeiriaid Protestannaidd ef fel crefydd ffug ac ofergoeliaeth, gweddillion Catholigiaeth ac arferion paganaidd. Yn yr Oleuedigaeth, diflannodd llawer o draddodiadau gwerin. Yn y 1800au, casglwyd straeon tylwyth teg Norwyaidd gan arbenigwyr megis Asbjørnsen a Moe, gan gynnwys sawl un am y Nisse, a sicrhaodd goroesiad y gred hon ymhlith y boblogaeth.
Yn y 1900au, y gred oedd bod y Nisse yn rhoi anrhegion i blant ar Noswyl y Nadolig naill ai mewn hosanau Nadolig neu'r esgidiau roedden nhw'n eu gwisgo ar Ddydd Nadolig; credid bod naill ai'r Barnnisse (Nisse sy'n byw yn yr ysgubor) neu'r Farmnisse (y Nisse y credid ei bod yn gwarchod y fferm) yn gwneud hyn.
Traddodiad sy'n ymwneud â'r Nisse yw rhoi uwd allan gyda darn o fenyn ynddo bob Noswyl Nadolig; traddodiad ar ffermydd oedd hwn yn wreiddiol ond mae hefyd wedi lledaenu drwy Norwy. Roedd yn hysbys bod gan y Nisse dymer, felly roedd yn ddoeth ceisio eu plesio. Pe bai'n derbyn yr uwd, byddai'n helpu i ofalu am y tir, y fferm a'r eiddo... Ond os nad oedd yn derbyn y cynnig o uwd, roedd yn dueddol o greu anhrefn o gwmpas y fferm.