Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig â'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf megis y gwyliau Celtaidd. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd. Yn draddodiadol, mae'r gelynnen yn chwarae rhan amlwg dros yr ŵyl, a hefyd wasanaeth y plygain ac ymweliad Siôn Corn. Hefyd mae plant yn cymryd rhan mewn sioeau Nadolig.

Siôn Corn modern
Paentiad o enedigaeth Crist, gan Bronzino

Hanes y Nadolig golygu

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'i flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Yng Ngwledydd Prydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yng Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl y banc yn y Deyrnas Unedig (sy'n cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apostolaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Iŵl.

Daw geirdarddiad y gair Nadolig o'r gair Lladin Natalicia (Natalis) sy'n golygu digwyddiad sy'n ymwneud â geni.[1][2] Mae'r ieithoedd Celtaidd yn defnyddio enwau tebyg fel Nedeleg (Llydaweg) a Nollaig (Gwyddeleg).

Yn dilyn tröedigaeth yr Eingl-Sacsoniaid yn Lloegr o'u hamldduwiaeth frodorol (ffurf ar grefydd y Germaniaid paganaidd) yn gynnar yn y 7g, gelwyd y Nadolig yn geol yn Lloegr, sy'n dod o'r gair Germaneg am ŵyl yr heuldro cyn-Gristnogol a oedd yn disgyn ar yr un diwrnod. O'r gair geol daw'r gair Saesneg presennol, Yule. Mae nifer o arferion a gysylltir â'r Nadolig cyfoes yn tarddu o arferion y paganiaid Almaenaidd.

Cynyddodd amlygrwydd Diwrnod y Nadolig yn raddol ar ôl i'r Ymerawdwr Siarlymaen gael ei goroni ar Ddiwrnod y Nadolig yn 800. Tua'r 12g, trosglwyddwyd olion hen draddodiadau'r duw Rhufeinig Sadwrn, sef y Saturnalia Rhufeinig, i Ddeuddeg Diwrnod y Nadolig (26 Rhagfyr – 6 Ionawr). Roedd y Nadolig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ŵyl gyhoeddus, gan gyfuno defnydd symbolaidd o eiddew, celyn a phlanhigion bytholwyrdd eraill yn ogystal â rhoi anrhegion.

Traddodiadau modern golygu

Gwelwyd y craceri Nadolig am y tro cyntaf ym 1847 pan gawsant eu dyfeisio gan Tom Smith, prentis cyfreithiwr. Ychwanegodd y stribed o solpitar ym 1860. Dydy'r goeden Nadolig ("draddodiadol") ddim yn hen iawn, Albert, gŵr y Frenhines Victoria, ddaeth â hi i wledydd Prydain. J. Glyn Davies sy'n gyfrifol am fathu'r enw Cymraeg Siôn Corn, sef Santa Clôs a oedd yn ddatblygiad ei hun ar draddodiad Seisnig, Father Christmas.

Mae traddodiadau cyfoes wedi datblygu i gynnwys presebau, tinsel a choed Nadolig plastig, cyfnewid cardiau ac anrhegion, ac ymweliad Siôn Corn ar Noswyl neu fore'r Nadolig.

Daeth yr hosan i Wledydd Prydain am y tro cyntaf yn y 19g gan addasu'r arfer Americanaidd o roi esgidiau allan i Sant Nicolas.

Y Nadolig yng Nghymru golygu

Mae cryn dipyn o draddodiadau Nadoligaidd a Chalan sy'n unigryw i Gymru. Fe eglurant isod.

Canu plygain golygu

Ceir llawer iawn o garolau a chanu plygain wedi'u cadw; arferid eu canu yn ystod cyfnod y Nadolig. Gwasanaeth cwbl Gymreig ydyw, a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig fel arfer. Bydd dynion a merched yn canu carolau ac emynau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru, ond fel y cyfryw mae llawer ohonynt yn cynnwys llinellau am y croeshoelio.[3]

Symbolau golygu

 
Dail a ffrwyth y gelynnen (Ilex aquifolium, celynnen Ewropeaidd).

Tan yn ddiweddar, celyn yn unig a ddefnyddiwyd i harddu'r tŷ: cangen braff wedi'i gosod ger y lle tân. Ni roddid fawr o anrhegion oddigerth i oren neu afal, efallai. Ond mae gwreiddiau'r uchelwydd yn ddwfn yng nghredoau'r derwyddon; arferid ei dorri gyda chryman aur a'i ddefnyddio mewn diod a defodau.

Y Fari Lwyd golygu

 
Pobl ymgynnull yn Rhuthun, tua adeg y Nadolig er mwyn tywys Y Fari Lwyd o gwmpas rhai o dai'r ardal.

Traddodiad unigryw a hynafol iawn yng Nghymru ydy'r Fari Lwyd, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw rhwng y Nadolig a Nos Ystwyll, ond sy'n tarddu efallai o draddodiadau am y dduwies Geltaidd Epona (Rhiannon yn y traddodiad Cymreig). Penglog ceffyl o dan gynfas, wedi'i addurno â chlychau yw'r Fari Lwyd. Roedd gwaseila yn rhan o'r hwyl – sef mynd â ffiol yn llawn cwrw a sbeis o dŷ i dŷ.

Bwyd a diodydd golygu

Mae gwneud cyflaith ("cyfleth" neu "taffi"; taffi meddal) yn arferiad sy'n gysylltiedig â dydd Calan a'r Nadolig; roedd ei wneud yn gywir yn dipyn o grefft a byddai'n arferiad arllwys y taffi cynnes, gwlyb ar garreg neu lechen wedi ei olchi a'i iro'n dda. Yna, byddai aelodau'r teulu'n ei dynnu, ei gordeddu o gwmpas handlen drws ayyb. Yn draddodiadol, roedd yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Arferid perfformio rhyw fath o ddarogan gwerin gyda'r cyflaith hefyd; i ddewina pwy fyddai rhywun yn ei briodi, gollyngwyd darnau o'r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai – dyma lythyren(nau) cyntaf o'r cariad.[3]

Hela'r dryw golygu

 
Y dryw (Troglodytes troglodytes).

Hyd at ryw ganrif yn ôl, ar Nos Ystwyll (y 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig a diwedd yr ŵyl) arferid hela'r dryw, sy'n aderyn bach, cyflym â chân uchel, brysur ganddo. Byddai'r dryw yn cael ei ladd, ei addurno, a'i roi mewn 'tŷ' neu flwch bychan. Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref, a byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddynt am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.

Wrth gwrs mae'r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro, ac nid oes llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru bellach.[3]

Gwneud cyflaith golygu

Roedd nosweithiau gwneud cyflaith yn ddigwyddiadau cymdeithasol a arferai ddigwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Defnyddiwyd y cyfleth i ragweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r taffi poeth i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai. Nodai hyn llythyren cyntaf enw'r person.

Pobl o'r enw "Nadolig" ayb golygu

Llyfrau a llyfryddiaeth golygu

Ffynhonnell golygu

  1. (Saesneg) LATdict - An Online English - Latin Dictionary & Latin Resource Site. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2011.
  2. (Saesneg) Latin Word Study Tool. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2011.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Cymraeg) BBC - Cymru - Hanes - Themâu - Arferion Nadolig. BBC. BBC (8 Rhagfyr 2010). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2011.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Chwiliwch am Nadolig
yn Wiciadur.