Nixon (ffilm)
Mae Nixon (1995) yn ffilm fywgraffiadol Americanaidd sydd adrodd hanes bywyd gwleidyddol a phersonol cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Richard Nixon. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Oliver Stone a chwaraewyd rhan Nixon gan yr actor Cymreig, Anthony Hopkins. Darlunir Nixon fel cymeriad cymhleth ac, mewn nifer o ffyrdd, yn berson y gellid edmygu, er fod ganddo wendidau amlwg. Yn wahanol i ffilm blaenorol Stone JFK, mae'r ffilm Nixon yn dechrau gydag ymwadiad pan ddywed fod y ffilm yn "an attempt to understand the truth [...] based on numerous public sources and on an incomplete historical record." Nid oedd y stiwdio yn hoff o ddewis Stone i chwarae rhan Nixon sef Hopkins. Roeddent eisiau Tom Hanks neu Jack Nicholson — sef dau o ddewisiadau cyntaf Stone. Ystyriodd y cyfarwyddwr Gene Hackman, Robin Williams a Tommy Lee Jones hefyd. Cyfarfu Stone â Warren Beatty hefyd ond roedd yr actor eisiau gwneud gormod o newidiadau i'r ffilm. Rhoddwyd y rhan i Hopkins yn seiliedig ar ei berfformiadau yn The Remains of the Day a Shadowlands.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Oliver Stone |
Cynhyrchydd | Dan Halsted Eric Hamburg Oliver Stone |
Ysgrifennwr | Stephen J. Rivele Christopher Wilkinson Oliver Stone |
Serennu | Anthony Hopkins Joan Allen Paul Sorvino Bob Hoskins Powers Boothe James Woods Ed Harris E. G. Marshall |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Hollywood Pictures Cinergi Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 22 Rhagfyr, 1995 |
Amser rhedeg | 192 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |