Oliver Stone
Mae William Oliver Stone (ganed 15 Medi 1946) yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmiau. Daeth Stone yn enwog fel cyfarwyddwr gyda chyfres o ffilmiau am Ryfel Fietnam, rhyfel yr oedd ef ei hun wedi cymryd rhan ynddo fel milwr. Mae Stone yn parhau i weithio ar faterion gwleidyddol a diwylliannol cyfoes, ac yn aml ystyrir ei weithiau fel rhai dadleuol. Enillodd dair o Wobrau'r Academi, y cyntaf am ei sgript ar gyfer Midnight Express (1978). Enillodd Wobrau'r Academi hefyd am gyfarwyddo Platoon (1986) a Born on the Fourth of July (1989), gyda'r ddwy ffilm yn sôn am Ryfel Fietnam.
Oliver Stone | |
---|---|
Ganwyd | William Oliver Stone 15 Medi 1946 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Manhattan, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd ffilm, dogfennwr, cyfarwyddwr |
Blodeuodd | 1996 |
Adnabyddus am | Gina Montana |
Taldra | 6 troedfedd |
Mam | Jacqueline Goddet |
Priod | Sun-jung Jung, Elizabeth Burkit Cox, Najwa Sarkis |
Plant | Sean Stone |
Gwobr/au | Medal y Seren Efydd, Calon Borffor, Gwobr Urdd Awduron America, Commandeur de l'ordre du Ouissam alaouite, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Donostia, Medal Aer, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Vietnam Service Medal, Vietnam Campaign Medal, Combat Infantryman Badge, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Commendation Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Golden Globes, Silver Bear, Yr Arth Aur, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Officier des Arts et des Lettres, Sitges Grand Honorary Award, Ordre des Arts et des Lettres, Gwobrau'r Academi, Gwobr Uwch Reithgor Gŵyl Ffilm Fenis, Jupiter Awards |
Gwefan | http://www.oliverstone.com |
llofnod | |
Nodwedd amlwg o'r arddull gyfarwyddo yw ei ddefnydd o gamerau a fformatau ffilm gwahanol, o VHS o ffilm 70mm. Weithiau, defnyddia nifer o fformatau gwahanol yn yr un olygfa, fel a welwyd yn JFK (1991) a Natural Born Killers (1994). Yn aml, beirniedir ffilmiau Stone am hyrwyddo damcaniaethau cynllwynion a diffyg cywirdeb hanesyddol. Yn ogystal, beirniadwyd y ffilm "Natural Born Killers" am glodfori trais; fodd bynnag, dadleua Stone fod y ffilm yn dychanu diddordeb y cyfryngau mewn darlunio trais.
Ffilmograffiaeth
golyguFel cyfarwyddwr
golygu
|
|
Gweithiau eraill
golygu- Midnight Express (sgriptiwr) (1978)
- Conan the Barbarian (sgriptiwr) (1982)
- Scarface (sgriptiwr) (1983)
- Year of the Dragon (sgriptiwr) (1985)
- 8 Million Ways to Die (sgriptiwr) (1986)
- Dave (cameo) (1993)
- Evita (sgriptiwr) (1996)