Nomenklatura

Rheolaeth gwledydd Comiwnyddol gan ddosbarth a ddewiswyr drwy fod ar restr o bobl a gymeradwywyd gan y Blaid Gomiwynyddol

Mae'r term Rwsieg nomenklatura (Rwsieg: номенклатура) yn disgrifio system i gadw grym drwy lenwi swyddi mewn cyrff gwladwriaethol pwysig yn y gwledydd Sofietaidd gan bobl a gymeradwywyd gan y Blaid Gomiwnyddol.[1] Roedd y system yn cynnwys cyfres o restrau o swyddi a restr o'r bobl a gymeradwywyd gan y blaid Gomiwnyddol ar gyfer dal swyddi o'r fath. Goruchwyliwyd y system nomenklatura gan gyrff uchaf y Blaid Gomiwnyddol.[2]

Nomenklatura
Enghraifft o'r canlynoldosbarth cymdeithasol Edit this on Wikidata
Mathelite Edit this on Wikidata
Car Limousine ZiL Sofietaidd oedd yn symbol o statws aelodaeth o'r Nomenklatura

Cefndir

golygu

Daeth y term yn fwyaf adnabyddus gan yr gwrthwynebydd Sofietaidd, Mikhail Sergeyevich Voslensky, a ysgrifennodd lyfr Rwseg Номенклатура. Господствующий клас с Советского Союза ("Nomenklatura: Dosbarth Reoli'r Undeb Sofietaidd") a gyhoeddwyd yn 1970.

Roedd yr nomenklatura yn elit gwleidyddol a gweinyddol bach a oedd yn rheoli poblogaeth yr Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol â dwrn haearn. Trwy feddiannu swyddi allweddol gan ei aelodau, llwyddwyd hefyd i reoli bron pob maes pwysig o fywyd cyhoeddus yn y gwledydd Comiwnyddol, megis llywodraeth, diwydiant, amaethyddiaeth, addysg, golygyddion papurau newydd, cyfarwyddwyr ffatrïoedd a rheolwyr mewn ysgolion a gwahanol fathau o sefydliadau. Creodd y system yma elit Sofietaidd o bobl a dderbyniodd hawliau a breintiau arbennig. Gallai aelodau'r nomenklatura siopa mewn siopau arbennig neu cael mynediad i ysbytai ac ysgolion arbennig. Un o amcanion Mikhail Gorbachev gyda'i bolisïau glasnost a perestroika oedd diwygio'r system nomenklatura.[2]

Mewn ystyr ffigurol, defnyddir y gair am y grŵp o bobl a ddaliodd swyddi o'r fath, hynny yw, haen flaen breintiedig yr Undeb Sofietaidd.[2]

Diffiniadau eraill

golygu

Mae rhai awduron yn diffinio'r nomenklatura fel dosbarth newydd. Roedd yn well gan ymlynwyr fwy uniongred Trotscïaeth ddefnyddio'r term "cast" (fel y system ddosbarth yn yr India) yn hytrach na dosbarth wrth ddisgrifio'r strwythur yma, gan eu bod yn gweld yr Undeb Sofietaidd fel gwladwriaeth gweithwyr ddirywiedig yn hytrach na chymdeithas ddosbarth newydd. Yn ddiweddarach, canolbwyntiodd datblygiad damcaniaeth Trotsky, yn arbennig damcaniaeth cyfalafiaeth gwladwriaethol Tony Cliff, yn fwy ar yr nomenklatura fel dosbarth newydd.

Nomenklatura Cymru

golygu

Ceir defnydd o'r term nomenklatura weithiau wrth ddisgrifio gweinyddiaeth fewnol Cymru, yn aml mewn ffordd lled-goeglyd ac i ddirmygu sefydliadau Cymru neu rheolaeth y Blaid Lafur o sefydliadau Cymru. Cafwyd enghraifft o hyn wrth i'r blogiwr Jac O' the North ddisgrifio'r broses o ddewis system "rhestr gaeedig" ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn 2026 pan fyddai'r pleidiau gwleidyddol yn penderfynnu trefn ymgeiswyr eu plaid yn yr etholiad ar gyfer Senedd newydd 93 sedd (o'r 60 flaenorol) heb roi dewis i'r etholwyr ddewis o blith enwau ymgeiswyr unigol.[3]

Defnyddiwyd y term hefyd gan y cyn-Aelod Senedd Cymru, Neil McAvoy mewn erthygl i ddisgrifio rheolaeth Cymru o dan lywodraeth y Blaid Lafur a gweinyddiaeth fewnol Plaid Cymru.[4]

Dolenni allanol

golygu
  • Nomenklatura yn Britannica gydag enghreifftiau o wahanol wladwriaethau Comiwnyddol
  • Nomenklatura Wcráin erthygl ar sefyllfa Wcráin
  • Voslensky, Michael (1984). Nomenklatura: The Soviet Ruling Class (arg. 1af). Doubleday. ISBN 0-385-17657-0. Ysgrifennwyd y gwreiddiol Rwsieg yn 1970, wedi'i ddosbarthu gan samizdat, a'i argraffu yn y pen draw fel Восленский М.С., Номенклатура. Господствующий класс Советского Союза. М., 1991, ceir fersiwn pdf.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Nomenklatua". Collins Dictionary. 5 Tachwedd 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 Kerr, Anne (2015-07-23). Anne Kerr, Edmund Wright (gol.). nomenklatura. Oxford University Press. doi:10.1093/acref/9780199685691.001.0001/acref-9780199685691-e-2632?rskey=x8pgsp&result=2682. ISBN 978-0-19-968569-1. Cyrchwyd 2023-04-17.CS1 maint: uses editors parameter (link)
  3. "Labour and Plaid Cymru Plot to Destroy Welsh Democracy". Blog Jac O' the North. 6 Chwefror 2024.
  4. "The forgotten masses of Wales are ready for a revolution". Nation.Cymru. 5 Medi 2018.