Nora Stanton Blatch Barney

Ffeminist Americanaidd a aned yn Basingstoke, Hampshire, Lloegr oedd Nora Stanton Blatch Barney (30 Medi 1883 - 18 Ionawr 1971) a oedd hefyd yn bensaer, peiriannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, a swffragét. Roedd Barney ymhlith y merched cyntaf i raddio gyda gradd mewn peirianneg yn Unol Daleithiau America. Hi oedd wyres Elizabeth Cady Stanton.[1]

Nora Stanton Blatch Barney
GanwydNora Stanton Blatch Edit this on Wikidata
30 Medi 1883 Edit this on Wikidata
Basingstoke Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ionawr 1971 Edit this on Wikidata
Greenwich, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
AddysgMaster of Science in Engineering Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpensaer, peiriannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, peiriannydd sifil Edit this on Wikidata
MamHarriot Eaton Stanton Blatch Edit this on Wikidata
PriodLee de Forest, Morgan Barney Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Basingstoke, Hampshire, Lloegr a bu farw yn Greenwich, Llundain. Bu'n briod i Lee de Forest. [2][3]

Y dyddiau cynnar golygu

Fe'i ganed yn ferch i William Blatch a Harriot Eaton Stanton, merch Elizabeth Cady Stanton. Astudiodd Lladin a mathemateg yn Ysgol Horace Mann yn Efrog Newydd, gan ddechrau yn 1897, gan ddychwelyd i Loegr yn y gwyliau haf. Symudodd y teulu i'r Unol Daleithiau ym 1902. Aeth Nora i Brifysgol Cornell, gan raddio ym 1905 gyda gradd mewn peirianneg sifil. Hi oedd y fenyw cyntaf i raddio mewn peirianneg o Brifysgol Cornell.

Yn 1905 fe'i derbyniwyd fel aelod iau o Gymdeithas Peirianwyr Sifil America (ASCE), a dechreuodd weithio i Gyflenwad Dŵr Bwrdd Dinas Efrog Newydd. Bu hefyd yn gweithio i'r American Bridge Company rhwng 1905 a 1906.[4]

Yr ymgyrchydd golygu

Gan ddilyn esiampl ei mam a'i mam-gu, daeth Nora hefyd yn weithgar yn y mudiad menywod. Hi oedd yr aelod benywaidd cyntaf o Gymdeithas Peirianwyr Sifil America, lle caniatawyd iddi fod yn aelod iau yn unig, ond ni chafodd ei dyrchafu'n aelod llawn yn 1916 oherwydd ei rhyw. Yn 1916, fe erlynodd Gymdeithas Peirianwyr Sifil America (ASCE) mewn llys am wrthod ei derbyn fel aelod llawn, er iddi gwrdd â'r holl ofynion. Collodd Blatch, ac ni ddaeth unrhyw fenyw yn aelod llawn o ASCE am ddegawd gyfan. Yn 2015, wedi ei marwolaeth, cafodd ei dyrchafu i statws Cymrawd ASCE.[5][6]

Priodi golygu

Yn 1908, priododd y dyfeisiwr Lee de Forest, a helpodd i reoli rhai o'r cwmnïau roedd ef wedi'u sefydlu i hyrwyddo ei ddyfais newydd, sef radio di-wifr. Treuliodd y cwpl eu mis mêl yn Ewrop yn marchnata offer radio a ddatblygwyd gan de Forest. Fodd bynnag, dim ond blwyddyn yn ddiweddarach gwahanodd y cwpl, yn bennaf oherwydd bod de Forest yn mynnu bod Nora yn rhoi'r gorau i'w phroffesiwn fel pensaer ac yn dod yn wraig tŷ gonfensiynol. Yn fuan wedyn, ym mis Mehefin 1909, rhoddodd Nora enedigaeth i'w merch, Harriot.[7]

Yn 1909, dechreuodd weithio fel peiriannydd i gwmni Radley Steel Construction Company. Ysgorodd de Forest a hithau yn 1911, a daliodd ati gyda'i gyrfa mewn peirianneg,[8] gan weithio i'r New York Public Service Commission.

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mrs. Nora S. Barney, Architect, 87, Dies". New York Times. 20 Ionawr 1971.
  2. Dyddiad geni: "Nora Stanton Blatch Barney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Nora Stanton Blatch (de Forest) Barney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Nora Stanton Blatch Barney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Nora Stanton Blatch (de Forest) Barney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. https://www.britannica.com/biography/Nora-Stanton-Blatch-Barney
  5. www.nsf.gov; adalwyd 8 Gorffennaf 2019
  6. "ASCE Recognizes Stanton Blatch Barney; Pioneering Civil Engineer, Suffragist". ASCE News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-19. Cyrchwyd 2016-02-10.
  7. "Harriet de Forest Engaged To Marry. Daughter Of Mrs. Morgan Barney Is Betrothed To Marshall C. Allaben Jr. Her Father Is Inventor. She Is An Artist And Has Exhibited Here And In Paris. Fiance Member Of Yale Club". New York Times. 22 Hydref 1932. Cyrchwyd 2010-07-21. Mrs. Morgan Barney of Greenwich, Conn., has announced the engagement of her daughter, Miss Harriet Stanton de Forest, to Marshall C. Allaben Jr., son of Mrs. Clarke Allaben of this city and of Marshall C. Allaben of Round Hill, Greenwich. Miss de Forest is the daughter of Dr. Lee de Forest, inventor.
  8. Judy Barrett Litoff; Judith McDonnell (1994). European Immigrant Women in the United States: A Biographical Dictionary. Taylor & Francis. tt. 14–. ISBN 978-0-8240-5306-2.