Digrifwr ac actor comig Canadaidd oedd Norman Gene Madconald (17 Hydref 195914 Medi 2021).

Norm Macdonald
Norm Macdonald yn 2016.
GanwydNorman Gene Macdonald Edit this on Wikidata
17 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Québec Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 2021 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Duarte Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Carleton
  • Gloucester High School
  • Quebec High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, sgriptiwr, actor ffilm, digrifwr stand-yp, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, actor llais, actor teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Saturday Night Live Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.normmacdonald.com Edit this on Wikidata

Ganed yn ninas Québec i deulu Saesneg o dras Albanaidd. Dechreuodd ar ei yrfa stand-yp mewn clybiau yn Ottawa yng nghanol y 1980au. Ysgrifennodd i'r gomedi sefyllfa Roseanne cyn iddo ymuno â chast y sioe sgetshis Saturday Night Live ym 1993. Daeth yn enwog am gyflwyno'r sgetsh reolaidd ffug-newyddion "Weekend Update". Cafodd ei ddiswyddo o Saturday Night Live ym 1998.

Yn niwedd y 1990au a'r 2000au, ymddangosodd Macdonald mewn nifer o ffilmiau comedi a chomedïau sefyllfa ar y teledu, ac yn aml ar sioeau sgwrs yr hwyrnos. Yn 2013 dechreuodd bodlediad o'r enw Norm Macdonald Live, a gafodd ddilyniant cwlt ar-lein. Cyhoeddodd led-hunangofiant o'r enw Based on a True Story yn 2016.

Bu farw Norm Macdonald yn 61 oed o ganser.[1]

Bywyd cynnar a theulu golygu

Ganed Norman Gene Macdonald ar 17 Hydref 1959 yn Québec, yn nhalaith Québec, Canada.

Newyddiadurwr yw ei frawd hŷn, Neil Macdonald.

Gyrfa stand-yp gynnar golygu

Perfformiodd stand-yp am y tro cyntaf yng nghlwb Yuk Yuk's yn Ottawa. Ym 1984 treuliodd bedwar mis fel perfformiwr agoriadol ar gyfer Sam Kinison, un o ddigrifwyr mwyaf Unol Daleithiau America ar y pryd. Datblygodd Macdonald ei arddull ddi-wên nodweddiadol yn y cyfnod hwn. Ymddangosodd ar Late Night with David Letterman am y tro cyntaf ym 1990, a daeth yn wyneb (a llais) gyfarwydd ar sawl sioe sgwrsio yr hwyrnos.

Aeth i Los Angeles, Califfornia, i barhau â'i yrfa stand-yp, ac yno cafodd ei hurio yn ysgrifennwr teledu ar gyfer y sioe sgwrsio The Dennis Miller Show (a barodd ychydig o fisoedd yn unig), a'r gomedi sefyllfa Roseanne yn serennu Roseanne Barr, un o'r cyfresi comedi mwyaf poblogaidd ar deledu Americanaidd yn y 1990au.

Saturday Night Live golygu

Ym 1993 cafodd Macdonald gyfweliad â Lorne Michaels, creawdwr a chynhyrchydd y sioe sgetshis fyw Saturday Night Live (SNL) ar sianel NBC. Ymunodd â chast SNL ym 1993, ac o fewn blwyddyn fe'i penodwyd i olynu Kevin Nealon fel cyflwynydd Weekend Update, rhan reolaidd o'r sioe a oedd yn cymryd ffurf rhaglen newyddion gyda jôcs yn seiliedig ar straeon yr wythnos. Yn ogystal â'i rôl ar Weekend Update, bu Macdonald yn actor ategol mewn sgetshis eraill ac yn dynwared enwogion, gan gynnwys Bob Dole, Burt Reynolds, David Letterman, Larry King, a Quentin Tarantino.

Yn nechrau 1998, cafodd Macdonald ei ddiswyddo o gyflwyno Weekend Update ar gais Don Ohlmeyer, llywydd NBC Entertainment, West Coast. Bu nifer yn credu nad oedd Ohlmeyer yn fodlon ar jôcs Macdonald am ei gyfaill, O. J. Simpson. Ymddangosodd mewn rhagor o benodau SNL ym 1998, ond gadawodd y gyfres yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn.[2]

Ffilm a theledu golygu

Ysgrifennodd Macdonald y ffilm gomedi Dirty Work (1998), a fe gyd-serennodd yn y ffilm honno gydag Artie Lange. Ymddangosodd sawl actor a digrifwr amlwg yn y ffilm, gan gynnwys Jack Warden, Chevy Chase, a Don Rickles. Ni châi fawr o glod gan y beirniaid, a fuont yn lladd ar hiwmor di-chwaeth y ffilm, ond dros amser fe'i disgrifiwyd yn rhywbeth o "glasur cwlt".

O 1999 i 2001, serennodd mewn comedi sefyllfa ei hun ar sianel ABC o'r enw The Norm Show (a gafodd ei ail-enwi'n Norm ar gyfer yr ail gyfres). Yn 2011 cyflwynodd raglen gomedi am chwaraeon, Sports Show with Norm Macdonald, ar sianel Comedy Central.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Comedian Norm Macdonald dies at 61 after battle with cancer", The Globe and Mail (14 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Medi 2021.
  2. (Saesneg) Neil Genzlinger, "Norm Macdonald, ‘Saturday Night Live’ Comedian, Dies at 61", The New York Times (14 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Medi 2021.