Larry King

actor a aned yn 1933

Roedd Larry King (ganwyd Lawrence Harvey Zeiger; 19 Tachwedd 193323 Ionawr 2021) yn ddarlledwr radio a theledu o'r Unol Daleithiau.[1]

Larry King
FfugenwLarry King Edit this on Wikidata
GanwydLawrence Harvey Zeiger Edit this on Wikidata
19 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 2021 Edit this on Wikidata
o sepsis Edit this on Wikidata
Canolfan Feddygol Cedars-Sinai Edit this on Wikidata
Man preswylBeverly Hills Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Lafayette High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, actor llais, llenor Edit this on Wikidata
SwyddDean of the New York Friars Club Edit this on Wikidata
PriodJulie Alexander, Freda Miller, Annette Kaye, Francis Sutphin, Alene Akins, Shawn Southwick, Sharon Lepore, Alene Akins Edit this on Wikidata
PlantLarry King Jr., Cannon Edward King Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Peabody Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd King yn Brooklyn, Efrog Newydd yn un o ddau blentyn Jennie (Gitlitz), gwneuthurwr dillad ac Aaron Zeiger, perchennog bwyty. Roedd y rhieni yn Iddewon Uniongred.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Lafayette, Brooklyn.[2] Bu farw ei dad o drawiad ar y galon pan oedd King yn naw mlwydd oed.

Dechreuodd King ei yrfa darlledu gan weithio fel glanhawr a chymhorthydd cyffredinol i gwmni radio WAHR ym Miami.[3] Wedi i un o'r cyflwynwyr ymadael yn ddisymwth gofynnwyd i Larry llenwi'r bwlch. Gan fod rheolwr yr orsaf yn credu bod yr enw Zeiger yn rhy ethnig ac yn anodd ei gofio, gofynnodd i Larry dewis enw llwyfan cyn y rhaglen. Dewisodd King o hysbyseb yn y Miami Herald ar gyfer cwmni gwirodydd King.[4] Roedd ei ddarllediad cyntaf ar 1 Mai, 1957, yn gweithio fel y joci disgiau rhwng 9 a.m. a hanner dydd. Bu hefyd yn darlledu dau slot newyddion a slot chwaraeon pob prynhawn.

Dechreuodd ei yrfa deledu ar WPST-TV Channel 10 ym Mai 1960 yn cyflwyno Miami Undercover, sioe drafod pynciau llosg y dalaith.[5] Bu hefyd yn gwneud gwaith sylwebu i Radio WIOD ar gemau pêl-droed y Miami Dolphins.

Collodd ei waith teledu a radio ym mis Rhagfyr 1971 pan gafodd ei arestio ar ôl i gyn partner busnes iddo ei gyhuddo o ddwyn o'u cwmni.[6] Gollyngwyd y cyhuddiadau. Yn y pen draw, ail gyflogwyd King gan WIOD. Am sawl blwyddyn yn ystod y 1970au, cyflwynodd sioe siarad chwaraeon o'r enw Sports-a-la-King a oedd yn cynnwys gwesteion a galwyr.[7]

Ar 30 Ionawr, 1978, dechreuodd King darlledu yn genedlaethol ar raglen System Darlledu Gydfuddiannol nosweithiol The Larry King Show. Darlledwyd y rhaglen yn fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng hanner nos a 5:30 a.m. Amser y Dwyrain. Byddai King yn cyfweld â gwestai am y 90 munud cyntaf, gyda galwyr yn gofyn cwestiynau a barhaodd y rhaglen am 90 munud arall. Cyflwynodd King y sioe nes iddo roi'r gorau i'w swydd ym 1994.[8]

Ym Mehefin 1985 symudodd King i gyflwyno ei raglen Larry King Live ar y sianel newyddion CNN. Ar y rhaglen bu King yn cyfweld ag ystod eang o westeion o ffigurau dadleuol i wleidyddion amlwg a ffigurau blaenllaw yn y diwydiant adloniant, yn aml yn gwneud eu cyfweliad cyntaf neu'r unig gyfweliad ar straeon newyddion arloesol ar ei sioe.[9]

Yn wahanol i lawer o gyfwelwyr, roedd gan King ddull uniongyrchol, nad oedd yn gwrthdaro. Roedd ei enw da am ofyn cwestiynau penagored hawdd yn ei wneud yn ddeniadol i ffigurau pwysig a oedd am nodi eu safle wrth osgoi cael eu herio ar bynciau dadleuol. Trwy gydol ei yrfa, bu King yn cyfweld â llawer o ffigurau blaenllaw ei gyfnod. Yn ôl CNN, cynhaliodd King fwy na 30,000 o gyfweliadau yn ei yrfa.[10]

Bu King hefyd yn ysgrifennu colofn papur newydd rheolaidd yn USA Today am bron i 20 mlynedd, o 1982 tan fis Medi 2001.[11] Gollyngwyd y golofn pan ailgynlluniodd y papur newydd ei adran "Bywyd". Cafodd y golofn ei hatgyfodi ar ffurf blog ym mis Tachwedd 2008 ac ar Twitter ym mis Ebrill 2009.

Ar 29 Mehefin, 2010, cyhoeddodd King y byddai, ar ôl 25 mlynedd, yn camu i lawr o gyflwyno Larry King Live. Fodd bynnag, nododd y byddai'n aros gyda CNN i gyflwyno rhaglenni arbennig yn achlysurol. Daeth y cyhoeddiad yn sgil dyfalu bod CNN wedi cysylltu â Piers Morgan, personoliaeth teledu a newyddiadurwr o Loegr i gyflwyno rhaglen tebyg.

Ar 17 Chwefror, 2012, cyhoeddodd CNN na fyddai’n cyflwyno rhaglenni arbennig mwyach.

Ym mis Mawrth 2012, cyd-sefydlodd King Ora TV, cwmni cynhyrchu, ar y cyd a'r dyn busnes Mecsicanaidd Carlos Slim. Ar 16 Ionawr, 2013, dathlodd Ora TV eu canfed bennod o Larry King Now. Ym mis Medi 2017, nododd King nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymddeol byth ac roedd yn disgwyl cynnal ei raglenni hyd iddo farw.

Llofnododd Ora TV gytundeb hir dymor gyda chwmni Hulu i gario cyfres we newydd o Larry King Now, gan ddechrau ar 17 Gorffennaf. Ar 23 Hydref, 2012, cadeiriodd King y ddadl arlywyddol trydydd parti ar Ora TV, gyda Jill Stein, Rocky Anderson, Virgil Goode, a Gary Johnson.

Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd rhwydwaith RT America, cwmni o Rwsia, eu bod wedi taro bargen gydag Ora TV i gynnal sioe Larry King Now ar ei rwydwaith. Parhaodd y sioe i fod ar gael ar Hulu.com ac Ora.tv. Y mis canlynol, dechreuodd RT America darlledu sioe siarad wleidyddol newydd Larry King Politicking with Larry King. Roedd y rhaglen gyntaf yn drafodaeth rhwng y Cynrychiolydd Aaron Schock (G, Illinois), y Strategydd Gwleidyddol Democrataidd, Peter Fenn, a Dirprwy Olygydd Rheoli Politico, Rachel Smolkin am weithred Edward Snowden a ddatgelodd raglenni gwyliadwriaeth gyfrinachol yr NSA.

Bu King yn briod wyth gwaith â saith o ferched. O'i saith gwraig, ar adeg ei farwolaeth, roedd gan King bump o blant a naw o wyrion, yn ogystal â phedwar o or-wyrion.

Ei wragedd oedd:[12]

  • Freda Miller (1952–1953)
  • Annette Kaye (1961)
  • Alene Akins (1961–1963) a (1967–1972)
  • Mickey Sutphin (1963–1967)
  • Sharon Lepore (1976–1983)
  • Julie Alexander (1989–1992)
  • Shawn Southwick (o 1997)

Marwolaeth

golygu

Ar 2 Ionawr 2021 datgelwyd bod King wedi bod yn yr ysbyty yn Los Angeles ar ôl profi’n bositif am COVID-19.[13] Ar 23 Ionawr, 2021, bu farw King yn 87 oed yng Nghanolfan Feddygol Cedars-Sinai, Los Angeles.[14]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Larry King". www.jewishvirtuallibrary.org. Cyrchwyd 2021-01-23.
  2. Gay, Jason (2013-03-07). "Larry King: Back in Brooklyn". Wall Street Journal. ISSN 0099-9660. Cyrchwyd 2021-01-23.
  3. "Larry King Biography, Photos, Pictures". web.archive.org. 2010-04-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-10. Cyrchwyd 2021-01-23.
  4. "Goodbye Larry King at Schema : more than ethnic". web.archive.org. 2010-07-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-16. Cyrchwyd 2021-01-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. "Larry King Miami Undercover | Classic Larry King | Larry King Career". Mediaite. 2010-06-30. Cyrchwyd 2021-01-23.
  6. "Larry King was arrested in 1971 and accused of stealing from business partner Louis Wolfson. He lost his job as a Miami radio host and fell further into debt, eventually declaring bankruptcy in 1978. Few years later, he started working with CNN and went on to become the legend that he is". photogallery.indiatimes.com. Cyrchwyd 2021-01-23.
  7. "Larry King | PureHistory". Cyrchwyd 2021-01-23.
  8. CNN, Tom Kludt and Brad Parks. "Larry King, legendary talk show host, dies at 87". CNN. Cyrchwyd 2021-01-23.
  9. Nemetz, Dave; Nemetz, Dave (2021-01-23). "Larry King, Legendary Interviewer and Host of Larry King Live, Dead at 87". TVLine. Cyrchwyd 2021-01-23.
  10. Research, CNN Editorial. "Larry King Fast Facts". CNN. Cyrchwyd 2021-01-23.
  11. "USATODAY.com - A New York boy pays tribute, bids farewell". usatoday30.usatoday.com. Cyrchwyd 2021-01-23.
  12. Hawks, Asa (2010-04-15). "Who are Larry King's 7 ex wives? A complete list with photos and brief bios!". starcasm.net. Cyrchwyd 2021-01-24.
  13. "Larry King moved out of ICU while hospitalized with Covid-19". The Independent. 2021-01-04. Cyrchwyd 2021-01-23.
  14. "Larry King, famed cable news interviewer, dies aged 87". the Guardian. 2021-01-23. Cyrchwyd 2021-01-23.