Notre-Dame de Paris
Eglwys gadeiriol ym Mharis yw Notre-Dame de Paris (Ffrangeg: Ein Harglwyddes o Baris). Saif ar ynys o'r enw Île de la Cité yn Afon Seine. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Math | eglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Fendigaid Forwyn |
Agoriad swyddogol | 7 Rhagfyr 2024 |
Sefydlwyd | |
Nawddsant | y Forwyn Fair |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Île de la Cité |
Sir | Notre-Dame, 4ydd arrondissement Paris, Paris, Île-de-France |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 5,500 m² |
Cyfesurynnau | 48.853°N 2.3498°E |
Cod post | 75004 |
Hyd | 127 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Ffrengig, Early Gothic architecture, Rayonnant, Gothig clasurol |
Perchnogaeth | gwladwriaeth Ffrainc |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Sefydlwydwyd gan | Maurice de Sully |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Deunydd | dimension stone |
Esgobaeth | Archesgobaeth Paris |
Cychwynnwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod Chwyldro Ffrainc pan ddinistriwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel Victor Hugo Notre-Dame de Paris yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynnodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan Eugène Viollet-le-Duc yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.[1]
Tân 2019
golyguAr brynhawn 15 Ebrill 2019, cychwynnodd tân yn nho'r adeilad a ledodd yn gyflym gan achosi difrod sylweddol. Dinistriwyd y to pren a dymchwelodd y prif feindwr. Gwnaed difrod sylweddol i'r adeilad ond achubwyd y prif strwythur a'r tri ffenest rhosyn enwog wedi eu gwneud o wydr lliw yn dyddio nôl i 1225. Achubwyd nifer fawr o weithiau celf a chreiriau o du fewn y gadeirlan.
Dywedodd Arlywydd Macron y byddai Notre-Dame yn cael ei ailadeiladu.[2] O fewn diwrnod, codwyd o leiaf €600m tuag at adfer y gadeirlan.[3]
Adnewyddwyd Notre-Dame ac agorodd yr adeilad ar ei newydd wedd ar y 29 o Dachwedd 2024.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "History of the Construction of Notre Dame de Paris" (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-02. Cyrchwyd 2019-04-15.
- ↑ Notre Dame Cathedral: spire collapses in huge fire – live news , guardian.co.uk, 15 Ebrill 2019.
- ↑ Notre Dame: €600m raised to help restore fire-damaged Paris cathedral , Sky News, 16 Ebrill 2019.
- ↑ "Notre-Dame: Macron praises 'impossible' restoration efforts". BBC News (yn Saesneg). 2024-11-28. Cyrchwyd 2024-11-29.