Tref fwyaf Swydd Warwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Nuneaton.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Nuneaton a Bedworth, ac mae'n gartref i bencadlys cyngor yr ardal. Saif tua 9 milltir (14 km) i'r gogledd o Coventry, 20 (32 km) milltir i'r dwyrain o Birmingham a 103 milltir (166 km) i'r gogledd-orllewin o Lundain. Rhed Afon Anker drwy'r dref.

Nuneaton
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Nuneaton a Bedworth
Poblogaeth86,552 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGuadalajara, Roanne, Cottbus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Warwick
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.523°N 1.4683°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP361918 Edit this on Wikidata
Map

Dyma'r dref fwyaf yn Swydd Warwick. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Nuneaton boblogaeth o 86,552.[2]

Mae'r dref yn adnabyddus am ei chysylltiad gyda'r nofelydd Saesneg George Eliot, a anwyd ar fferm ar Ystâd Arbury ychydig y tu allan i'r dref yn 1819.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
  2. City Population; adalwyd 12 Medi 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Warwick. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato