Oedraniaeth
Rhagfarn neu agwedd elyniaethus tuag at bobl hŷn yn seiliedig ar eu oedran yn unig yw oedraniaeth. Fel rheol mae'n rhagfarn yn erbyn yr henoed neu unrhyw un sy ddim yn cael ei ystyried yn ifanc. Weithiau mae'r term yn cael ei ddefnyddio gan rai pobl i gyfeirio at ragfarn yn erbyn pobl ifanc hefyd, ond nid dyna'r ystyr arferol. Cafodd y term Saesneg ageism ei fathu yn 1969 gan y gerontolegydd Americanaidd Robert N. Butler i ddisgrifio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ar batrwm rhywiaeth a hiliaeth. Y ffurf amlycaf ar oedraniaeth efallai yw gosod rhwystrau ar ffordd ennill gwaith yn y gred nad yw pobl hŷn yn cystal weithwyr a phobl iau.
Dolenni allanol
golygu- http://www.agediscrimination.info Oedraniaeth yn Lloegr a Cymru