Gerontoleg
Gerontoleg yw'r astudiaeth o'r agweddau cymdeithasol, diwylliannol, seicolegol, gwybyddol, a biolegol ar heneiddio. Cafodd y gair ei fathu gan Ilya Ilyich Mechnikov yn 1903, o'r Groeg γέρων, geron, "hen ŵr" a -λογία, -logia, "astudiaeth o". [1] Mae'r maes yn wahanol i geriatreg, sef y gangen o feddygaeth sy'n arbenigo mewn trin clefydau mewn oedolion hŷn. Mae gerontolegwyr yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr ym meysydd bioleg, nyrsio, meddygaeth, troseddeg, deintyddiaeth, gwaith cymdeithasol, therapi corfforol a galwedigaethol, seicoleg, seiciatreg, cymdeithaseg, economeg, gwyddoniaeth wleidyddol, pensaernïaeth, daearyddiaeth, fferylliaeth, iechyd y cyhoedd, tai, ac anthropoleg.[2]
Mae natur amlddisgyblaethol gerontoleg yn golygu bod nifer o is-feysydd sy'n gorgyffwrdd â gerontoleg. Mae yna faterion polisi, er enghraifft, yn ymwneud â chynllunio'r llywodraeth a chynnal cartrefi nyrsio, ymchwilio i effeithiau poblogaeth sy'n heneiddio ar gymdeithas, a dylunio mannau preswyl ar gyfer pobl hŷn sy'n hwyluso datblygu ymdeimlad o le neu gartref. Roedd Dr. Lawton, seicolegydd ymddygiadol yng Nghanolfan Geriatreg Philadelphia, ymhlith y cyntaf i gydnabod yr angen am fannau byw a gynlluniwyd ar gyfer yr henoed, yn enwedig y rhai â chlefyd Alzheimer. Fel disgyblaeth academaidd mae'r maes yn gymharol newydd. Creodd Ysgol Leonard Davis USC y rhaglenni PhD, meistr a baglor cyntaf mewn gerontoleg ym 1975.
Hanes
golyguYn y byd Islamaidd canoloesol, ysgrifennodd nifer o feddygon ar faterion yn ymwneud â Gerontoleg. Roedd gan Y Canwn Meddygaeth gan Avicenna (1025) yn cynnig cyfarwyddyd ar gyfer gofalu am yr henoed, gan gynnwys deiet a meddyginiaethau ar gyfer problemau fel rhwymedd.[3] Ysgrifennodd y meddyg Arabeg Ibn Al-Jazzar Al-Qayrawani (Algizar, tua 898-980) ar boenau a chyflyrau'r henoed (Ammar 1998, t.4).[4] Mae ei waith ysgolheigaidd yn ymdrin ag anhwylderau cysgu, anghofrwydd, sut i gryfhau cof,[5][6] ac achosion marwolaeth.[7] Ysgrifennodd Ishaq ibn Hunayn (bu farw 910) hefyd waith ar y triniaethau ar gyfer anghofrwydd (Llyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yr UDA, 1994).[8]
Er bod nifer y bobl oedrannus, a'r disgwyliad oes, wedi tueddu i gynyddu ym mhob canrif ers y 14g, roedd cymdeithas yn tueddu i ystyried gofalu am berthynas oedrannus fel mater teuluol. Nid tan i ddyfodiad y Chwyldro Diwydiannol y newidiodd syniadau o blaid system gofal cymdeithasol. Roedd rhai arloeswyr cynnar, fel Michel Eugène Chevreul, a wnaeth fyw ei hun tan yr oedd yn 102, yn credu y dylai heneiddio ei hun fod yn wyddoniaeth i'w hastudio. Bathodd Ilya Mechnikov y term "gerontoleg" o gwmpas y flwyddyn 1903.[9]
Dechreuodd arloeswyr modern fel James Birren drefnu gerontoleg fel maes ynddo ei hun yn y 1940au, gan gymryd rhan yn ddiweddarach yn y gwaith o ddechrau asiantaeth llywodraeth yr UD ar heneiddio – y Sefydliad Cenedlaethol ar Heneiddio[10] – rhaglenni gerontoleg ym Mhrifysgol De Califfornia a Phrifysgol Califfornia, Los Angeles, ac fel cyn-lywydd Cymdeithas Gerontoleg America (a sefydlwyd ym 1945).[11]
Gan fod disgwyl i boblogaeth pobl dros 60 oed fod tua 22% o boblogaeth y byd erbyn 2050, daeth y term gerowyddoniaeth i'r amlwg ar ddechrau'r 21g.[12][13][14]
Biogerontoleg
golyguMae biogerontoleg yn is-faes o gerontoleg sy'n ymwneud â'r broses heneiddio fiolegol, ei tharddiad esblygol, a dulliau posibl o ymyrryd yn y broses. Mae'n cynnwys ymchwil ryngddisgyblaethol ar achosion, effeithiau, a mecanweithiau heneiddio biolegol. Mae biogerontolegwyr ceidwadol fel Leonard Hayflick wedi rhagweld y bydd y disgwyliad oes dynol yn cyrraedd tua 92 mlwydd oed,[15] tra bod eraill fel James Vaupel wedi rhagweld y bydd disgwyliad oes mewn gwledydd diwydiannol yn cyrraedd 100 ar gyfer plant a anwyd ar ôl y flwyddyn 2000.[16] ac mae rhai biogerontolegwyr a holwyd wedi rhagweld disgwyliad oes o ddwy ganrif neu fwy.[17] Mae Aubrey de Grey wedi cynnig yr "amserlen betrus" y byddai cyllid digonol i ymchwil i ddatblygu ymyraethau mewn heneiddio yn rhoi siawns 50/50 y bydd technolwg wedi'i datblygu mewn 25-30 mlynedd a fydd yn ein glluogi i atal pobl rhag marw o unrhyw oedran.[18]
Mae yna nifer o ddamcaniaethau i esbonio heneiddio, ac nid oes yr un ohonynt wedi'i derbyn hyd yma. Mae sbectrwm eang o'r mathau o ddamcaniaethau ar gyfer achosion heneiddio, o ddamcaniaethau rhaglennu i ddamcaniaethau gwall. Waeth beth yw'r ddamcaniaeth, un peth cyffredin yw bod swyddogaethau'r corff yn dirywio wrth i bobl heneiddio.[19]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Confluence. "Gerontology/Geriatrics Definitions". www.aghe.org. Cyrchwyd 2016-11-25.
- ↑ Hooyman, N.R.; Kiyak, H.A. (2011). Social gerontology: A multidisciplinary perspective (arg. 9th). Boston: Pearson Education. ISBN 978-0205763139.
- ↑ Howell, Trevor H. (1987). "Avicenna and His Regimen of Old Age". Age and Ageing 16 (1): 58–59. doi:10.1093/ageing/16.1.58. PMID 3551552. https://archive.org/details/sim_age-and-ageing_1987-01_16_1/page/58.
- ↑ Ammar, S (1998). "Vesalius". Official Journal of the International Society for the History of Medicine 4: 48. http://www.bium.univ-paris5.fr/ishm/vesalius/VESx1998x04x01.pdf.
- ↑ "Ibn al-Jazzār, Abū Ja'far Ahmad ibn Ibrāhīm ibn Abī Khālid (d. 979/369)". Islamic Medical Manuscripts. U.S. National Library of Medicine. Cyrchwyd 24 September 2013.
- ↑ [Geritt Bos, Ibn al-Jazzar, Risala fi l-isyan (Treatise on forgetfulness), London, 1995 ]
- ↑ Al Jazzar Error in Webarchive template: URl gwag.
- ↑ "Specialized literature". Islamic culture and medical arts. U.S. National Library of Medicine. Cyrchwyd 24 September 2013.
- ↑ Online Etymology Dictionary
- ↑ "About the National Institute on Aging". National Institute on Aging, US National Institutes of Health. 2018. Cyrchwyd 5 March 2018.
- ↑ Newcomb, Beth (15 January 2016). "In memoriam: James E. Birren, 97". University of Southern California - News. Cyrchwyd 5 March 2018.
- ↑ Burch, J. B; Augustine, A. D; Frieden, L. A; Hadley, E; Howcroft, T. K; Johnson, R; Khalsa, P. S; Kohanski, R. A et al. (2014). "Advances in Geroscience: Impact on Healthspan and Chronic Disease". The Journals of Gerontology Series A: Biological Sciences and Medical Sciences 69 (Suppl 1): S1–S3. doi:10.1093/gerona/glu041. PMC 4036419. PMID 24833579. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4036419.
- ↑ Seals, D. R; Justice, J. N; Larocca, T. J (2015). "Physiological geroscience: Targeting function to increase healthspan and achieve optimal longevity". The Journal of Physiology 594 (8): 2001–2024. doi:10.1113/jphysiol.2014.282665. PMC 4933122. PMID 25639909. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4933122.
- ↑ Kohanski, R. A; Deeks, S. G; Gravekamp, C; Halter, J. B; High, K; Hurria, A; Fuldner, R; Green, P et al. (2016). "Reverse geroscience: How does exposure to early diseases accelerate the age-related decline in health?". Annals of the New York Academy of Sciences 1386 (1): 30–44. Bibcode 2016NYASA1386...30K. doi:10.1111/nyas.13297. PMID 27907230.
- ↑ Watts G (June 2011). "Leonard Hayflick and the limits of ageing". Lancet 377 (9783): 2075. doi:10.1016/S0140-6736(11)60908-2. PMID 21684371. http://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S0140-6736(11)60908-2.
- ↑ Christensen, L; Doblhammer, K; Rau, G; Vaupel, JW (2009). "Ageing populations: the challenges ahead". Lancet 374 (9696): 1196–1208. doi:10.1016/s0140-6736(09)61460-4. PMC 2810516. PMID 19801098. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2810516.
- ↑ Richel, Theo (December 2003). "Will human life expectancy quadruple in the next hundred years? Sixty gerontologists say public debate on life extension is necessary". J Anti-Aging Med 6 (4): 309–314. doi:10.1089/109454503323028902. PMID 15142432.
- ↑ de Grey, Aubrey D. N. J.; Rae, Michael (October 14, 2008). Ending Aging. St. Martin's Griffin. t. 15. ISBN 978-0312367077.
- ↑ Taylor, Albert W.; Johnson, Michel J. (2008). Physiology of Exercise and Healthy Aging. Human Kinetics. ISBN 978-0-7360-5838-4.