Oergell

teclyn cartref neu ddiwydiannol i gadw bwyd ar dymheredd isel

Peiriant a ddefnyddir i gadw pethau'n oer yw oergell. Gan rai, yr enw arno yw cwpwrdd oer. Fel arfer, bydd tymheredd oergell yn y cartref yn cael ei gynnal ar 4-5 gradd canradd. Bydd pobl yn cadw bwyd a diodydd ynddi, yn bennaf er mwyn eu cadw'n hirach rhag difetha neu fel eu bod yn oer wrth eu bwyta neu eu hyfed. Mae gan oergell bwmp gwres sy'n tynnu'r gwres o'r aer y tu mewn iddi, sy'n cael ei yrru gan fodur trydan fel arfer. Bydd y gwres yn cael ei symud i'r aer y tu allan i'r oergell.

Bwyd a diod mewn oergell gartref sydd â'i drws yn agored

Mae oergelloedd yng ngheginau bwytai a gwestai yn llawer mwy nag oergell yn y cartref: yn aml, mae oergell fasnachol o'r fath yn ystafell y gall staff y gegin fynd i mewn iddi. Ar ben arall y sbectrwm, mae'n bosib cael oergelloedd bach iawn, sydd i'w gweld yn bennaf mewn ystafelloedd gwestai.

Dyfeisiwyd y peiriant rheweiddio cyntaf yn y 18fed ganrif.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. William Cullen, Of the Cold Produced by Evaporating Fluids and of Some Other Means of Producing Cold, yn Essays and Observations Physical and Literary Read Before a Society in Edinburgh and Published by Them, II, (Edinburgh 1756) (Saesneg)