Peiriant sy'n trawsnewid egni trydanol yn egni symudol yw'r modur trydan. Y gwrthwyneb iddo yw'r generadur sy'n trawsnewid egni symudol yn egno trydanol. Mewn rhai megis y car trydan, gall o modur trydan weithredu i symud (pan fo'n defnyddio trydan o'r batri, ac i gynhyrchu trydan (pan wthir y brec).

Trydan
Trydan

Foltedd
Cerrynt trydanol
Gwrthiant
Gwrthedd


Amedr
Foltmedr
Gwahaniaeth potensial
Joule

Modur trydan, wedi'i draws dorri er mwyn gweld y rhannau mewnol.

Caiff y modur trydan ei ddefnyddio mewn llawer iawn o wrthrychau a ddefnyddir o ddydd i ddydd e.e. i yrru'r car trydan, i droi peiriant golchi dillad, i sychu gwallt, i weithio pwmp dŵr neu i droi disg yrrwr y cyfrifiadur. Gall y cerrynt fod yn gerrynt union neu'n gerrynt eiledol. Mae'r modur trydan yn gweithio drwy ryngweithiad dau beth: y maes magnetig a cherynt tro sy'n cynhyrchu grym o fewn y modur.

Mae'r moduron trydan mwyaf i'w gweld mewn llongau ac i bwmpio dŵr, ac mae rhai'n defnyddio 100 megawat. Defnyddir y modur trydan i gynhyrchu grym llinol neu gylchol (trorym),

 
Arbrawd electromagnetig Faraday, 1821[1]

Andrew Gordon, mynach o'r Alban, a greodd y moduron trydan cyntaf a hynny yn y 1740au.[2] Ysgrifennwyd a diffiniwyd yr egwyddor ddamcaniaethol am y tro cyntaf yn 1820 gan André-Marie Ampère, sef yr hyn a elwir heddiw yn 'ddeddf grym Ampère' a ddisgrifiai'r rhyngweithio rhwng y maes magnetig a'r cerrynt trydanol. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1821, dangosodd Michael Faraday hyn pan osododd arbrawf lle roedd weiren rhydd yn crogi i mewn i ddesgil yn llawn o arian byw (Hg); ar y weiren roedd magned. Pan lifodd cerrynt drwy'r weiren, cylchdrodd y weiren o amgylch y magned; roedd hyn yn dangos fod y cerrynt yn caniatau maes magnetig o amgylch y weiren.[3] Gellir cyfnewid yr arian byw am ddŵr hallt. Ni sylweddolwyd anferthedd y darganfyddiad, na'i gymhwysiad ymarefrol tan ddiwedd y ganrif.

 
Gwahanol fathau o foduron trydan, gyda batri 9v er mwyn cymharu'r maint.

Grym a throrym

golygu

Holl bwrpas bron i bob motor trydan yw achosi symudiad o ryw fath neu'i gilydd drwy electromagnetiaeth, a chynhyrchir y symudiad hwn ar ffurf grym llinol neu drorym.

Yn ôl 'deddf cyntaf Lorentz' gellir disgrifio'r ddau rym yma yn syml, fel:

 

neu'n fwy cyffredinol:

 

Y dull mwyaf cyffredin o gyfrifo'r grwymoedd o fewn y modur yw drwy densorau.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Faraday, Michael (1822). "On Some New Electro-Magnetical Motion, and on the Theory of Magnetism". Quarterly Journal of Science, Literature and the Arts (Royal Institution of Great Britain) XII: 74–96 (§IX). http://archive.org/details/quarterlyjournal12jour. Adalwyd 12 Chwefror 2013.
  2. Tom McInally, The Sixth Scottish University. The Scots Colleges Abroad: 1575 to 1799 (Leiden: Brill, 2012), t.115
  3. "The Development of the Electric Motor,". Early Electric Motors. SparkMuseum. Cyrchwyd 12 February 2013.
  4. Kirtley, James L., Jr. (2005). "Class Notes 1: Electromagnetic Forces" (PDF). 6.6585 - Electric Machines. MIT Dept of Electrical Engineering. Cyrchwyd 15 March 2013.


Chwiliwch am modur trydan
yn Wiciadur.