Official Monster Raving Loony Party

Mae Plaid Swyddogol yr Ynfydion Cynddeiriog Angenfilaidd neu Plaid Swyddogol Angenfilaidd yr Ynfydion Cynddeiriog (The Official Monster Raving Loony Party yn Saesneg) yn blaid wleidyddol gofrestredig yn y Deyrnas Unedig [3] a sefydlwyd yn 1963 gan y cerddor David Sutch (1940-1999), sy'n fwy adnabyddus fel "Screaming Lord Sutch ". Defnyddiwyd yr enw "Raving Loony" am y tro cyntaf yn 1983, yn is-etholiad Bermondsey.

Plaid Swyddogol yr Ynfydion Cynddeiriog Angenfilaidd
ArweinyddAlan "Howling Laud" Hope
Sefydlwyd1983
Pencadlys59 New Barn Close, Fleet, Hampshire, GU51 5HU
Aelodaeth1,434[1]
Rhestr o idiolegauDychan
Sbectrwm gwleidyddol"Sitting, facing forward"
LliwMelyn a Du
Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig
7 / 19,031
[2]
Gwefan
http://LoonyParty.com

Mae'r blaid yn nodedig am ei pholisïau abswrd.[4]

Er gwaethaf ei natur ddychanol, mae rhai o'r polisïau sydd wedi ymddangos ym maniffesto'r blaid wedi dod yn gyfraith, megis yr hawl i bleidleisio yn 18 oed, "pasports ar gyfer anifeiliaid anwes", a thafarndai ar agor drwy'r dydd. Yn 1963 yr oed i bleidleisio oedd 21.

Hyd at 2015 roedd dau o'u cynghorwyr wedi bod yn feiri: Alan Hope yn Ashburton, Dyfnaint a Chris Driver o Ynys Sheppey, Caint.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Official Monster Raving Loony Party : Membership". Loonyparty.com. Cyrchwyd 12 Medi 2014.
  2. "Elections | The Official Monster Raving Loony Party". Loonyparty.com. Cyrchwyd 27 Mai 2015.
  3. http://search.electoralcommission.org.uk/English/Registrations/PP66
  4. "Screaming Lord Sutch - History & Timeline". The Loony Archive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-26. Cyrchwyd 31 Awst 2014.