Lascaux

cyfres o ogofâu yn ne-orllewin Ffrainc
(Ailgyfeiriad o Ogofâu Lascaux)

Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin Ffrainc yw Lascaux. Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn Hen Oes y Cerrig.

Lascaux
Mathogof gyda chelf cynhanesyddol, safle archeolegol cynhanesyddol, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrehistoric Sites and Decorated Caves of the Vézère Valley Edit this on Wikidata
SirMontignac-Lascaux Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau45.0492°N 1.1761°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethmonument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Llyn ceffyl yn Lascaux

Saif yr ogofâu yn nyffryn afon Vézère ger pentref Montignac, yn département Dordogne. Cafwyd hyd iddynt ar 12 Medi 1940 gan bedwar bachgen, Marcel Ravidat, Jacques Marsal, Georges Agnel, a Simon Coencas, gyda chymorth ci Ravidat, Robot. Mae'r lluniau gan mwyaf o anifeiliaid.

Agorwyd yr ogofâu i'r cyhoedd, ond erbyn 1955, roedd y carbon deuocsid a gynhyrchid gan 1,200 o ymwelwyr y dydd yn amlwg yn niweidio'r lluniau. Caewyd yr ogofâu yn 1963 i'w gwarchod. Yn 1983, agorwyd Lascaux II, atgynhyrchiad o ran o'r ogofâu, 200 medr o'r safle ei hun. Dynodwyd Lascaux yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.