Carbon deuocsid

cyfansoddyn cemegol

Mae Carbon deuocsid (CO2) yn gyfansoddyn cemegol sydd wedi ei greu gan ddwy atom ocsigen ac un atom carbon wedi'u bondio'n gofalent. Mae'n nwy ar dymheredd a gwasgedd safonol ac mae'n bodoli yn atmosffêr y ddaear yn y cyflwr hwn. Ar hyn o bryd, yn fyd-eang, crynodiad y carbon deuocsid yn yr atmosffêr yw tua 383 rhan fesul miliwn ar gyfartaledd er bod hyn yn amrywio - yn dibynnu ar leoliad ac amser. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr pwysig ar y ddaear gan ei fod yn trawsyrru golau gweledol gan amsugno llawer o is-goch. Yn 2014 disgynodd y ganran o garbon deuocsid a oedd yn cael ei allyru i'r atmosffer 9% yng ngwledydd Prydain - gan y defnyddiwyd 20% yn llai o lo. Dyma'r defnydd lleiaf o lo ers y 1850au.[1]

Carbon deuocsid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
MathOcsid asidig, oxocarbon Edit this on Wikidata
Màs43.99 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolCo₂ edit this on wikidata
Enw WHOCarbon dioxide edit this on wikidata
Rhan ocarbon dioxide binding, response to carbon dioxide, methanogenesis, from carbon dioxide, cellular response to carbon dioxide, carbon dioxide transmembrane transport, carbon dioxide transmembrane transporter activity, carbon dioxide transport, carbon dioxide homeostasis, cellular carbon dioxide homeostasis, Llygredd aer, atmosffer y Ddaear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Strwythur Atomig CO2
Adeiledd 3D o garbon deuocsid

Cynhyrchir carbon deuocsid gan bob anifail, planhigyn, ffwng a micro-organeb yn ystod resbiradaeth a defnyddir gan blanhigion yn ystod ffotosynthesis. Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid yn ogystal â chemegion eraill i greu siwgrau sydd yn cael eu defnyddio fel y deunyddiau crai am dyfiant neu ar gyfer resbiradaeth eto. Mae carbon deuocsid felly'n gydran sylweddol yn y gylchred garbon. Mae carbon deuocsid anorganig yn gynnyrch llosgfynyddoedd a phrosesau geothermal eraill fel ffynhonnau naturiol.

Nid oes cyflwr hylifol ganddo o dan wasgedd is na 5.1 atm, ond yn solid ar dymereddau'n is na -78 °C. Yn ei gyflwr solid, gelwir carbon deuocsid yn "iâ sych" yn gyffredinol.

Carbon deuocsid yn yr atmosffer golygu

 
Chwith: Cyfanswm allyriadau gwledydd y byd: y 40 gwlad uchaf eu hallyriadau. Dde: allyriadau yn ôl nifer y bobl yn y gwledydd hynny.

Mae Carbon deuocsid (CO2) yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.[2][3] Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.

Mae CO2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm (modd dirgrynol) a 14.99 µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO2 ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rha mewn miliwn) yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at y presennol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. www.carbonbrief.org; adalwyd 5 Mawrth 2015
  2. "Global carbon dioxide levels break 400ppm milestone". The Guardian. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  3. "ESRL Global Monitoring Division - Global Greenhouse Gas Reference Network". NOAA. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.