Ogofâu Wookey Hole
ogofâu yng Ngwlad yr Haf
Rhwydwaith ogofâu calchfaen a safle archaeolegol enwog yng Ngwlad yr Haf yw Ogofâu Wookey Hole. Fe'u lleolir ym mhentref Wookey Hole ger Wells ym Mryniau Mendip, yn ne-orllewin Lloegr, heb fod ymhell o Geunant Cheddar.
Y fynedfa i Ogofâu Wookey Hole | |
Math | ogof i ymwelwyr, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.2281°N 2.6714°W |
Cadwyn fynydd | Bryniau Mendip |
Mae darganfyddiadau o esgyrn pobl ac anifeiliaid o'r cyfnod paleolithig a wnaed yn ogof Wookey Hole yn dangos iddo gael ei presrwylio o bryd i'w gilydd am gyfnod o tua 50,000 o flynyddoedd. Darganfuwyd nifer o offer callestr yno yn ogystal.
Erbyn heddiw mae'r ogofâu yn atyniad twristaidd poblogaidd.