Cadwyn o fryniau calchfaen yng ngogledd Gwlad yr Haf yw'r Bryniau Mendip. Mae'r calchfaen wedi erydu mewn mannau i greu ceunentydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ceunant Cheddar a Burrington Combe. Man ucha'r bryniau yw Beacon Batch ar Black Down gydag uchder o 325m uwchben lefel y môr. Mewn rhai ardaloedd mae'r calchfaen yn cynnwys haenau mwynau plwm a sinc. Cafodd y plwm ei fwyngloddio o'r cyfnod Rhufeinig hyd y 19g. Prif ddinasoedd a threfi'r ardal yw Cheddar, Shepton Mallet a Wells.

Bryniau Mendip
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr325 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3°N 2.73°W Edit this on Wikidata
Hyd45 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolCarbonifferaidd Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata
Ceunant Cheddar (Cheddar Gorge)

Hanes golygu

Lleolir Ogofâu Wookey Hole, safle archaeolegol o Oes y Cerrig, ym Mryniau Mendip.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.