Oh, What a Beautiful Mornin'

O, What a Beautiful Mornin' yw gân agoriadol Oklahoma!, sioe gerdd a gafodd ei berfformio gyntaf ar Broadway ym 1943. Fe'i hysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Richard Rodgers a'r libretydd Oscar Hammerstein II. Mae'r prif gymeriad gwrywaidd Curly McLain, yn canu'r gân ar ddechrau'r olygfa gyntaf o'r sioe. Geiriau'r cytgan yw:

"Oh, what a beautiful mornin'!
Oh, what a beautiful day!
I've got a beautiful feelin'
Ev'rythin's goin' my way."


Mae "optimistiaeth berw" Curly yn cael ei ddal yn berffaith gan gerddoriaeth llawn asbri Rodgers yn fugeilgerdd ysgafnfryd Hammerstein.[1]

Dyma oedd y cân gyntaf o gydweithrediad cerddorol Rodgers a Hammerstein i gael ei glywed gan gynulleidfaoedd theatr. Mae wedi dod yn un o'u caneuon mwyaf poblogaidd ac yn fuan daeth yn un o'r caneuon Americanaidd mwyaf poblogaidd i ddod o gyfnod y rhyfel. Enillodd elw tu allan i'w cynefin ar Broadway, yn gyntaf ar y radio a recordiadau, ac yna'n ddiweddarach ar nifer o sioeau teledu amrywiol. Dywedodd Brooks Atkinson, wrth adolygu'r cynhyrchiad gwreiddiol yn The New York Times, bod "y gan wedi newid hanes y theatr gerddorol: Ar ôl pennill fel hwn, yn cael ei ganu i alaw mor fywiog, daeth diflastod yr hen lwyfannau sioe gerdd yn annioddefol." [2]

Cafwyd hwb i boblogrwydd y gan wedi cyhoeddi'r sioe gerdd ar ffurf ffilm gerdd ym 1955.

Cyfeiriadau golygu