Oidhreacht Éireann
Gwaith Oidhreacht Éireann (Gwyddeleg am 'Treftadaeth Iwerddon', Saesneg: Heritage Ireland) yw diogelu safleoedd treftadaeth Gweriniaeth Iwerddon a'u cyflwyno i'r cyhoedd. Mae'n rhan o'r Oifig na nOibreacha Poiblí (Saesneg: Office of Public Works), un o adrannau llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon. Mae'n cyfateb felly i gyrff fel Cadw yng Nghymru. Er gwaethaf ei enw, nid yw'n cynnwys safleoedd yng ngogledd-ddwyrain yr ynys.
Math | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Mae'r safleodd sydd yng ngofal Oidhreacht Éireann yn cynnwys safleoedd cynhanesyddol fel Dún Aengus, cestyll fel Castell Donegal a mynachlogydd fel Abaty Sligo. Mae'r safleoedd hyn i gyd ar agor i'r cyhoedd ond codir tal mynediad fel rheol.