Olivera Nikolova
Awdures oedolion a phlant o Ogledd Macedonia yw Olivera Nikolova (11 Mawrth 1936 - 4 Tachwedd 2024) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a ystyrir yn un o brif nofelwyr ei gwlad. Fe'i ganed yn 1936 yn Skopje, prifddinas Gweriniaeth Macedonia.[1][2]
Olivera Nikolova | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1936 Skopje |
Bu farw | 4 Tachwedd 2024 |
Dinasyddiaeth | Gogledd Macedonia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Seintiau Cyril, Methodius a Skopje. Graddiodd o'r Gyfadran Athroniaeth yn Skopje, a gweithiodd fel ysgrifennwr sgrin ar gyfer rhaglenni radio a theledu.
Ymhlith ei llyfrau mwyaf poblogaidd i blant mae: Zoki Poki, sy'n glasur o fewn llenyddiaeth Macedonia, Y Wlad Lle Na Chyrhaeddwn, a dderbyniodd Wobr Nosweithiau Barddoniaeth Struga yn 1966, Y Ffrindiau Bon a Bona a dderbyniodd Wobr Struga yn 1975, Fy Sain, Cariadon Marko, Torr Calon ayb.[3][4][5]
Ymhlith ei llyfrau mwyaf poblogaidd i oedolion mae Diwrnod y Gwyliau Haf (storiau),[6] y comedi Silver Apple (Srebrenoto Jabolko), y nofelau Drws Cul[7] (Tesna Vrata; gwobr Stale Popov, 1983), Gweithiau Cartref,[8] Asen Adda[9] (Gwobr Racin, 2000), Amrywiaethau ar Gyfer Ibn Pajko,[10] Doliau Rositsa[11] (Nofel y Flwyddyn, 2004), yn ogystal â chyfrol o ddramâu, Silver Apple (Srebrenoto Jabolko),"Leva komora",[12] Mwg Gwyn (Beliot Čad),[13] Cartref Bychan (Kuќička) Enwebwyd ar gyfer Gwobr Balkanika 2011".[14]
Am gyflawniadau eithriadol mewn llenyddiaeth gyfoes i bobl ifanc, ym 1983 derbyniodd Wobr Zmaj, un o brif wobrau'r cyn-Iwgoslafia.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad marw: https://novamakedonija.com.mk/makedonija/pochina-pisatelkata-olivera-nikolova/.
- ↑ ZEMJA VO KOJA NIKOGAS NE SE STIGNUVA, 1965 (Detska radost, Skopje).
- ↑ PRIJATELITE BON I BONA, 1974 (Makedonska kniga, Skopje).
- ↑ MOJOT ZVUK, 1977 (Detska radost, Skopje).
- ↑ DEN ZA LETUVANJE, collection of storied, 1964 (“Kultura”, Skopje)
- ↑ TESNA VRATA, nofel, 1983 ("Misla", Skopje) a gyfieithwyd i'r Slofeneg.
- ↑ DOMASNI ZADACI, nofel, 1989 ("Makedonska kniga", Skopje)
- ↑ ADAMOVOTO REBRO, nofel, 2000 ("Matica makedonska", Skopje)
- ↑ VEZBI ZA IBN PAJKO, nofel, 2001 ("Tri", Skopje) Cyfieithwyd i'r Tsieceg.
- ↑ KUKLITE NA ROSICA, nofel, 2004 ("Kultura", Skopje)
- ↑ LEVA KOMORA, 2008 ("Templum", Skopje)
- ↑ BELIOT ČAD, 2009 ("Ili-ili" Skopje)
- ↑ KUЌIČKA, 2012 ("Blesok" Skopje) Nominacija za nagradata Balkanika 2011