Gogledd Macedonia
Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (neu Weriniaeth Macedonia). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r Cenhedloedd Unedig â Gwlad Groeg.[1]
Republlika Severna Makedonija (Macedoneg) | |
Arwyddair | Diamser yw Gogledd Macedonia |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Enwyd ar ôl | gogledd, Macedonia |
Prifddinas | Skopje |
Poblogaeth | 1,836,713 |
Sefydlwyd | 8 Medi 1991 (Annibyniaeth oddi wrth Iwgoslafia) |
Anthem | Heddiw dros Macedonia |
Pennaeth llywodraeth | Hristijan Mickoski |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Macedoneg, Albaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, De Ewrop |
Arwynebedd | 25,713 km² |
Yn ffinio gyda | Albania, Serbia, Bwlgaria, Gwlad Groeg, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo |
Cyfesurynnau | 41.65°N 21.71667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Macedonia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gweriniaeth Macedonia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gweriniaeth Macedonia |
Pennaeth y wladwriaeth | Gordana Siljanovska-Davkova |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gweriniaeth Macedonia |
Pennaeth y Llywodraeth | Hristijan Mickoski |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $13,825 million, $13,563 million |
Arian | denar (Macedonia) |
Canran y diwaith | 17.414, 16.575, 15.801, 14.477 |
Cyfartaledd plant | 1.524 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.77 |
Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.
Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd cais gweriniaeth i ymaelodu â NATO ar 6 Chwefror 2019.[2] fel rhan o'r Cytundeb drwy'r Cenhedloedd Unedig ar newid enw'r wladwriaeth i 'Gweriniaeth Gogledd Macedonia'.
Enw'r wlad
golyguAr hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: Македонија/Makedonija) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg: Република Македониjа/Republika Makedonija). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg: Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Cytunwyd ar yw enw Gweriniaeth Gogledd Macedonia ar 12 Chwefror 2019.[1]
Oriel
golygu-
Paentiadau yn Eglwys Sant Panteleimon (Nerezi).