Olonkinbyen
Yr unig anheddiad ar ynys Jan Mayen, Norwy, yw Olonkinbyen. Fe'i henwyd ar ôl y fforiwr Rwsiaidd-Norwyaidd Gennady Olonkin. Unig drigolion yr ynys yw llond llaw o aelodau o'r Lluoedd Arfog a Sefydliad Meteorolegol Norwy sy'n gweithredu gorsaf dywydd, gorsaf llywio radio, maes awyr a gwasanaethau eraill â chysylltiad â seilwaith. Yn ôl amcangyfrif 2019 roedd ganddi boblogaeth o 18.[1]
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Jan Mayen |
Gwlad | Norwy |
Arwynebedd | 0.3 km² |
Uwch y môr | 8 metr |
Cyfesurynnau | 70.922°N 8.715°W |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 29 Rhagfyr 2022