Opus
Cwmni teledu o Gaerdydd a unodd gyda Ffilmiau'r Nant o Gaernarfon yn 2008
Cwmni teledu o Gaerdydd oedd Teledu Opus Cyf, a unodd gyda Ffilmiau'r Nant o Gaernarfon yn 2008 i greu cwmni newydd o'r enw Rondo. Roedd y cwmni yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarlledu ddigwyddiadau byw fel Eisteddfod Llangollen. Maent wedi cynhyrchu nifer o gyfresi gyda'r cogydd Dudley Newbury, gan gynnwys Chez Dudley a Casa Dudley lle mae criw o gogyddion o Gymru yn mynd i wledydd fel Ffrainc (Chez Dudley), yr Eidal a Sbaen (Casa Dudley) i gystadlu mewn cystadleuaeth teledu realaeth. Mentrodd y cwmni i faes dramâu comedi gyda'r gyfres Cowbois ac Injans, a dderbyniodd adolygiadau cymysg.
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 2 Medi 2000 |
Daeth i ben | 2008 |
Pencadlys | Caerdydd |
Rhiant-gwmni | Ffilmiau'r Nant |