Orasaigh, Ynysoedd Mewnol Heledd
Ynys lanw yn Ynysoedd Mewnol Heledd yw Orasaigh (Saesneg: Oronsay). Saif fymryn i'r de o ynys Colbhasa, ac mae ganddi arwynebedd fymryn dros ddwy filltir sgwar. Roedd poblogaeth o bump ar yr ynys yn 2001.
Math | ynys lanwol |
---|---|
Poblogaeth | 8 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Mewnol Heledd |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 540 ha |
Uwch y môr | 93 metr |
Gerllaw | Moryd Lorn |
Cyfesurynnau | 56.0156°N 6.2436°W |
Hyd | 4.6 cilometr |
Gellir cerdded i'r ynys o Colbhasa ar lanw isel, ar hyd An Traigh ("Y Traeth"). Mae niferoedd sylweddol o'r Morlo Llwyd yn magu ar ynys fechan Eilean nan Ròn gerllaw, ac mae Orosaigh ei hyn yn Ardal Warchodaeth Arbennig i warchod nifer o adar sy'n nythu yma, yn arbennig y Fran Goesgoch a Rhegen yr Yd.
Adeilad pwysicaf yr ynys yw Priordy Orosaigh. Dywedir i Sant Oran sefydly mynachdy ar yr ynys yn 563. Mae'r priodry presennol yn sefydliad Awstinaidd o'r 14g.