Morlo Llwyd
Morlo Llwyd | |
---|---|
Morlo Llwyd ger Rhossili. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Phocidae |
Genws: | Halichoerus Nilsson, 1820 |
Rhywogaeth: | H. grypus |
Enw deuenwol | |
Halichoerus grypus (Fabricius, 1791) |
Ceir y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) ar ddwy ochr Môr Iwerydd; ef yw'r mwyaf cyffredin o'r ddwy rywogaeth o Forlo o gwmpas arfordir Cymru. Mae'n perthyn i deulu'r Phocidae, y "gwir forloi", a dyma'r unig rywogaeth yn y genws Halichoerus.
Morlo gweddol fawr yw'r Morlo Llwyd, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5 - 3 metr o hyd a phwysau o hyd at 300 kg; mae'r benywod yn llai, 1.6 - 2.0 metr o hyd ac yn pwyso 150 kg. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 metr neu fwy i'w dal. Genir y cenawon (sef y morloi ifance) rhwng Medi a Thachwedd;
Amcangyfrifir fod poblogaeth o tua 5,000 o gwmpas arfordir Cymru i'r de o Aberystwyth, yn magu 1,300 o loi bach yn ôl amcangyfrif yn 2000.
Bwyd
golyguPysgod o bob math ac anifeiliaid eraill y môr, er enghraifft, y gath fôr felen:
Ymrafael rhwng morlo a chath fôr:
Cadarnhaodd yr arbenigwr bywyd môr Sion Roberts: “...cath fôr wedi ei dal gan forlo. Efallai mai Raja brachyura, y gath fôr felen, yw'r 'sgodyn.[1]
Enwau lleoedd
golyguBae bychan ger Trwyn y Fuwch, ardal Bae Penrhyn, Llandudno, yw Porth Dyniewaid. Mae'r enw'n ddiddorol ac mae sawl sillafiad gwahanol a dau ystyr. Buwch ifanc rhwng blwydd a dyflwydd, neu fustach yw un ystyr. Mae'r llall, sef 'morlo ifanc' yn gwneud mwy o synnwyr. Gwelwyd llawer o forloi yno ar y 6 Ionawr 2019. Yn ôl un person roedd yno 47. Ar dudalen o'r cylchgrawn You Know you are from Llandudno mae rhywun wedi cyfri dros 70.Facebook.
Dolenni allanol
golygu- Morloi Llwyd SAC Bae Ceredigion Archifwyd 2007-10-15 yn y Peiriant Wayback