Un o'r orielau seneddol a ddefnyddir gan newyddiadurwyr gwleidyddol i wylio a gwrando ar areithiau, seremonïau a thrafodaethau yw oriel y wasg.

Oriel y wasg yn Ottawa, Canada (1916).

Yn y Deyrnas Unedig mae traddodiad arbennig gan bapurau newydd Lloegr o roi hanes helyntion y siambr. Llaw-fer yw'r arfer sy'n galluogi'r newyddiadurwr i gofnodi areithiau, dadleuon, cwestiynau ac atebion yn gyflym ac yn fanwl gywir. Ymledodd yr arddull ar draws Prydain wrth i bapurau newydd lleol gynnwys adroddiadau ar gyfarfodydd gan awdurdodau lleol. Hon yw'r ffordd draddodiadol o gyhoeddi newyddion gwleidyddol o San Steffan a neuadd y dref, ond mae straeon o ddiddordeb dynol a "darnau lliw" yn ennill mwy a mwy o fodfeddi colofn oddi ar ohebiaeth a sylwebaeth ddifrifol.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tony Harcup. A Dictionary of Journalism (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 113.