Orthorecsia
Mae Orthorecsia’n cael ei ddiffinio fel obsesiwn â bwyta’n iach. Y cyfieithiad llythrennol Groegaidd yw ‘bwyta’n gywir’. Nid yw Orthorecsia’n anhwylder sydd wedi’i chydnabod yn feddygol, ond mae dal yn broblem y mae nifer o bobl yn brwydro â hi.
Math | anhwylder bwyta |
---|
Caiff Orthorecsia’n amlach ei ystyried fel math o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), yn hytrach nag anhwylder bwyta. Mae hyn oherwydd bod gan rywun sy’n byw ag orthorecsia gymhelliad i fwyta’n iach oherwydd ffordd llym o feddwl am ac ymddwyn o amgylch bwyd, ac nid yw wedi’i ysgogi gan hunan-ddelwedd.
Gall Orthorecsia olygu torri allan grwpiau bwyd cyfan o’r deiet er mwyn dileu unrhyw fwydydd nad ydynt yn ‘bur’, sy’n gwneud y ddelfryd o fwyta’n iach yn segur.
Symptomau
golygu- Purdeb yn hytrach na phleser. Gall eich deiet ddod yn wael pan fyddwch yn poeni am ba mor ‘pur’ yw eich bwyd dros y pleser o’i fwyta
- Obsesiwn â phryderon iechyd. Gall diddordeb sylweddol yn y cysylltiadau rhwng bwyd a chyflyrau iechyd, a newid eich arferion bwyta’n dramatig o’r herwydd fod yn achos gofidio
- Meddyliau afresymol. Yn ogystal â ffocysu ar bryderon iechyd posibl, gall meddyliau obsesiynol am lendid wrth baratoi bwyd fod yn arwydd
- Hunan-niweidio. Gan fod pobl sydd ag Orthorecsia’n mynd ar ddeiet sy’n anodd i’w ddilyn, gallent niweidio eu hunain pe baent yn llithro oddi arno.
- Hunan-barch isel. Gall pobl ag Orthorecsia fod â diffyg hyder a beio’u hunain am fod ag awydd bwyd neu am lithro oddi ar eu deiet.
- Unigedd. Os yw’r obsesiwn â’r hyn rydych yn ei fwyta’n dod cyn eich bywyd cymdeithasol neu bywyd dyddiol
- Pwysau isel. Mae pobl sydd ag Orthorecsia’n aml yn colli pwysau’n eithafol.
Triniaeth
golyguGellid trefnu triniaethau siarad megis cwnsela a Therapi Gwybyddyol Ymddygiadol (CBT). Ni annogir siarad â deietegydd a newid eich deiet fel y prif ffocws, oherwydd dylid tynnu’r pwyslais oddi ar fwyd er mwyn lleddfu’r obsesiwn. Argymhellir bod pobl sydd ag Orthorecsia’n cael eu hail-gyflwyno’n araf i wahanol grwpiau bwyd er mwyn dychwelyd at ddeiet normal.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Orthorecsia ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith. Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall |