Osbern fitz Richard

Arglwydd Normanaidd ar ororau Cymru oedd Osbern fitz Richard (bu farw c. 1100).

Roedd yn fab i Richard Scrob. Ymddengys iddo gael tiroedd ar ororau Cymru gan Gwilym Goncwerwr, oedd yn berthynas pell iddo, yn fuan ar ôl 1066, a chofnodir ei ddaliadau yn Llyfr Dydd y Farn.

Priododd Nest, merch Gruffudd ap Llywelyn. Roedd ganddynt ferch, Nest neu Agnes, a briododd un arall o arglwyddi Normanaidd y gororau, Bernard de Neufmarché.