Bernard de Neufmarché

person milwrol (1050-1125)

Arglwydd Normanaidd oedd yn un o'r cyntaf i goncro tiriogaethau yng Nghymru oedd Bernard de Neufmarché (c. 1050 - c. 1125). Roedd Bernard yn un o'r mân arglwyddi Normanaidd a lwyddodd i ennill safle gref ar y Gororau cyn cipio Teyrnas Brycheiniog rhwng 1088 a 1095, a chreu Arglwyddiaeth Brycheiniog.

Bernard de Neufmarché
Ganwyd1050 Edit this on Wikidata
Neuf-Marché Edit this on Wikidata
Bu farw1125 Edit this on Wikidata
Sir Frycheiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
TadGeoffrey de Neufmarché Edit this on Wikidata
MamAda de Hugleville Edit this on Wikidata
PlantSibyl de Neufmarché Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yng nghastell Le-Neuf-Marché-en-Lions, ar y ffin rhwng Normandi a Beauvais. Roedd yn perthyn o bell i Gwilym Goncwerwr. Rhoddwyd tiroedd yn Swydd Henffordd iddo gan y brenin yn 1086 neu 1087. Priododd Agnes (Nest), merch Osbern fitz Richard a Nest, merch Gruffudd ap Llywelyn.

Ymosododd ar deyrnas Brycheiniog tua 1088, Cipiwyd Talgarth, ac adeiladodd gastell Bronllys. Erbyn 1091, roedd wedi cyrraedd dyffryn afon Wysg. Yn ôl un cofnod diweddarach, gwnaeth brenin Brycheiniog, Bleddyn ap Maenarch, gynghrair a Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth yn 1093 neu 1094, ac ymosododd ar Bernard, oedd yn adeiladu castell yn Aberhonddu. Lladdwyd Rhys yn y frwydr, a chipiodd Bernard y gweddill o Frycheiniog.

Cyfeiriadau

golygu